Darganfyddiad genom malwoden i gynorthwyo gyda’r frwydr yn erbyn clefyd trofannol marwol
Chwith i’r Dde: Aelodau o Ganolfan Barrett ar gyfer Rheoli Helminth ym Mhrifysgol Aberystwyth; Dr Iain Chalmers, Yr Athro Karl Hoffmann, Dr Martin Swain a Dr Kathy Geyer
16 Mai 2017
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyfrannu at ymdrechion rhyngwladol i nodweddu'r genom mewn rhywogaeth o falwoden sy'n gyfrifol am drosglwyddo parasit sy'n lladd 200,000 o bobl bob blwyddyn.
Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Barrett ar gyfer Reoli Helminth (CBRH) y Brifysgol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi bod yn astudio’r falwoden Biomphalaria glabrata sy'n trosglwyddo’r clefyd trofannol schistosomiasis, a elwir hefyd yn Bilharzia.
Mae eu canfyddiadau diweddaraf yn cael eu cyhoeddi heddiw, dydd Mawrth 16 Mai 2017, yn Nature Communications a disgwylir iddynt gyfrannu at nod Sefydliad Iechyd y Byd o ddileu schistosomiasis fel problem iechyd byd-eang erbyn 2025.
Disgwylir iddynt hefyd arwain at strategaethau newydd ar gyfer gwella bywydau'r rhai sy'n byw gyda’r clefyd gwanychol a marwol hwn.
Ar hyn o bryd, mae mwy na 600 miliwn o bobl yn byw yn Affrica, Asia a De America wedi eu heintio gan y llyngyr gwaed tra phathogenaidd hwn.
Mae pobl yn dueddol i gael eu heintio pan fyddant yn ymolchi, chwarae, nofio, golchi, pysgota neu gerdded trwy ddŵr sydd wedi ei heigio gan y parasit sydd wedi’i ryddhau o'r falwoden ddŵr.
Fel rhan o'r cydweithio rhyngwladol hwn, mae aelodau o dîm CBRH, roedd y Doctoriaid Martin Swain, Kathy Geyer, Iain Chalmers, Umar Niazi a'r Athro Hoffmann yn gyfrifol am adnabod a nodweddu micro-organebau sydd yn byw o fewn y falwen.
Tra bod anifeiliaid syml ungell wedi’u canfod o fewn meinweoedd y B. glabrata o’r blaen, mae canfyddiad y tîm yn Aberystwyth yn cynrychioli'r darganfyddiad cyntaf o ficrobau sy’n cyd-drigo.
Gyda'i gilydd, mae'r celloedd anifeiliaid a microbaidd hyn yn debygol o chwarae rhan bwysig ym mioleg ddatblygiadol y falwen, yn debyg iawn i rai sy’n cael eu hwyluso gan y micro-organebau sy'n byw y tu mewn i neu ar bobl.
Dywedodd yr Athro Hoffmann: "Mae'r canfyddiadau hyn yn agor y posibilrwydd o reoli schistosomiasis drwy annog neu beiriannu’r microbau naturiol hyn fel eu bod yn troi yn erbyn y falwen, a thrwy hynny leihau nifer y malwod a faint o’r parasit sy’n cael ei drosglwyddo mewn ardaloedd rhemp."
Mewn ymchwiliad cyfochrog, a gyhoeddwyd ar yr un pryd yn PLoS Neglected Tropical Diseases ar ddydd Mawrth 16 Mai, 2017, cynorthwyodd yr un tîm o Aberystwyth i nodi set o enynnau sy'n cael eu defnyddio gan y falwoden i reoli prosesau biolegol arferol, gan gynnwys atgenhedlu malwod.
Yn benodol aethant ymlaen i ddangos bod y parasit yn gallu ail-raglennu genynnau rheoli’r falwoden sydd yn cyfeirio ei gweithrediad arferol.
“Rydym yn credu ei bod yn bosibl i fynd i'r afael â'r parasit trwy drin y genynnau hyn fel bod ynni yn cael ei gymryd oddi wrth atgenhedlu malwod ac yn cael ei ddefnyddio i hybu imiwnedd y falwen, ac yn y pen draw gyfyngu trosglwyddiad schistosomiasis mewn ardaloedd lle mae’n rhemp”, ychwanega Dr Geyer.
Mae'r tîm o Aberystwyth, ochr yn ochr â'i phartneriaid rhyngwladol (gan gynnwys cyfraniadau gwerthfawr gan y sefydliadau canlynol yn y DG: Prifysgol Aberdeen, Prifysgol Brunel, Prifysgol Kingston, yr Amgueddfa Hanes Natur, Y Sefydliad Biowybodeg Ewropeaidd a Phrifysgol Westminster), bellach yn gweithio ar ymestyn y canfyddiadau hyn er mwyn datblygu atebion ymarferol ar gyfer rheoli niferoedd malwod mewn ardaloedd lle mae schistosomiasis ynrhemp.
Drwy ddilyn yr agenda ymchwil hon, bydd strategaethau newydd sydd eu hangen ar frys ar gyfer rheoli’r clefyd trofannol marwol hwn yn cael eudatgelu.
Mae'r gwaith hwn a gynhaliwyd gan wyddonwyr Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Helminth o fewn IBERS wedi ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg - BBSRC.