Gwobrau Cyntaf Aber First Awards 2017

12 Mai 2017

Mae ceisiadau yn awr ar agor ar gyfer Gwobrau Cyntaf Aber First Awards 2017 sy’n cael eu cefnogi gan Brifysgol Aberystwyth.

Cynllunnir y gwobrau i gydnabod arfer gorau a rhagoriaeth sydd yn cael ei arddangos gan sefydliadau a busnesau yn ardal Menter Aberystwyth.

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw canol dydd ar ddydd Mawrth 16 Mai 2017.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn yr Hen Goleg ar 23 Mehefin 2017.

Gall unigolion neu sefydliadau/busnesau wneud cais eu hunan gan ddweud wrthym pam y dylent gael eu hystyried ar gyfer gwobr a bydd angen i 3 o’u cwsmeriaid/cleientiaid egluro pam maent yn haeddu’r wobr.

I wneud cais anfonwch fanylion drwy e-bostio at menwww@aber.ac.uk, neu ei bostio at Menter Aberystwyth, Penbryn, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3BY.

Mae gofyn i’r cwsmeriaid/cleientiaid sydd yn cefnogi’r cais wneud yr un peth.

Bydd angen i'r ymgeisydd a’r cefnogwyr egluro mewn dim mwy na 500 o eiriau pam y dylid ystyried yr ymgeisydd am wobr.

Gellir ychwanegu lluniau i gefnogi'r cais a dywedwch wrthym pryd sefydlwyd y busnes/sefydliad a sawl aelod o staff sydd yn gweithio yno.

Nid oes unrhyw ffurflen gais ffurfiol. Gall ceisiadau gael eu gwneud mewn nwy nag un categori ond mae angen nodi’r categori yn amlwg.

Mae deg categori gwobr ar gyfer y gwobrau 2017:

1. Gwobr Entrepreneur Ifanc: Entrepreneur ifanc y flwyddyn (o dan 30)
Agored i bob math o fusnesau sydd o fewn yr ystod oedran hwn.

2. Gwobr Gwasanaeth Cwsmer Gorau:  Lefelau eithriadol o wasanaeth cwsmer.
Agored i bob math o fusnes

3. Gwobr Lletygarwch: Y croeso gorau yn Aber
Agored i bob darparwyr llety, bwytai a chaffis

4. Gwobr Werdd: Pa mor wyrdd yw eich busnes?
Agored i bob math o fusnes

5. Gwobr Manwerthu: Y profiad siopa gorau
Agored i holl fusnesau manwerthu

6. Gwobr Menter Gymdeithasol: Gwneud bywyd yn well
Agored i unigolion, grwpiau a sefydliadau  3ydd sector

7. Gwobr Priodas: Sicrhau'r diwrnod gorau posible
Agored i bawb sy'n cyflenwi eitemau/gwasanaethau priodas

8. Gwobr yr Iaith Gymraeg: Cadw'r iaith yn fyw
Agored i bob math o fusnesau

9. Gwobr Celfyddyd Aberystwyth: cydnabod y Celfyddydau yn Aberystwyth
Mae agored i unigolion a grwpiau sy'n perfformio neu’n defnyddio celfyddyd weledol

10. Gwobr Cyfryngau Cymdeithasol:   Y profiad gorau ar-lein
Agored i bob math o fusnes

Mi fydd yr holl enillwyr yn cael eu hystyried ar gyfer Gwobr Busnes y Flwyddyn fydd yn cael ei wobrwyo i’r prif enillydd

Noder bod posibilrwydd y bydd y beirniaid yn ymweld â busnesau yn gudd os ydynt yn cael eu cynnwys yn y rhestr fer. 

Mae’r beirniaid yn cynnwys 3 person o’r gymuned fusnes a chyngor y dref, yn ogystal â beirniad ychwanegol o’r cwmni sydd yn noddi'r categori y maent wedi ei ddewis.