Aber yn denu myfyrwyr Doethuriaeth Proffesiynol o’r Emiradau Arabaidd Unedig

04 Mai 2017

Mae grŵp o 16 o weithwyr proffesiynol o'r Emiradau Arabaidd Unedig (EAU) yn treulio pythefnos cyntaf mis Mai ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddechrau eu rhaglen ddoethuriaeth broffesiynol.

Byddan nhw’n ymgymryd â rhan gyntaf eu hyfforddiant ymchwil, a fydd yn cynnwys pedwar ymweliad preswyl ag Aberystwyth ynghyd â dysgu o bell.

Bydd eu hymchwil yn canolbwyntio'n bennaf ar feysydd Astudiaethau Gwybodaeth a Rheoli Busnes.

Bydd carfan o saith o fyfyrwyr PhD o Qatar sy'n astudio yn Athrofa Busnes a'r Gyfraith y Brifysgol yn ymuno â'r grŵp o’r Emiradau Arabaidd Unedig.

Yn ogystal â darlithoedd hyfforddiant ymchwil a seminarau, caiff y myfyrwyr Doethuriaeth Broffesiynol gyfle ar y penwythnos i ymweld ag ardaloedd eraill o Gymru a mynychu digwyddiad yn yr Hen Goleg.

Mae’r cynllun Doethuriaeth Broffesiynol wedi ei anelu at bobl broffesiynol sy'n awyddus i astudio am ddoethuriaeth tra'n parhau i weithio ac sy’n dymuno gwneud ymchwil ar lefel ddoethuriaeth yn seiliedig ar eu maes proffesiynol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Athro Datblygiad Proffesiynol y Brifysgol, yr Athro Judy Broady-Preston: "Mae’n Doethuriaeth Broffesiynol wedi ei anelu at weithwyr proffesiynol cymwys sydd am wneud gwaith ymchwil ar lefel ddoethuriaeth tra’n datblygu eu gyrfa. Mae gofyn i’r myfyrwyr ddangos effaith ymarferol eu hymchwil ar eu maes proffesiynol, yn ogystal â gwneud cyfraniad at wybodaeth. Mae cynnig addysg yn seiliedig ar y gweithle yn golygu bod pobl sy'n gweithio yn gallu astudio ar lefel uchel - lle bynnag maen nhw’n byw."

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor â chyfrifoldeb dros faterion Rhyngwladol a Myfyrwyr Profiad ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae’n Doethuriaeth Broffesiynol yn gymhwyster academaidd cydnabyddedig ac uchel ei barch yn rhyngwladol, ac rydym yn falch iawn i groesawu’r grŵp hwn o bobl broffesiynol o'r Emiraethau Arabaidd Unedig i blith teulu myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth."