Ethol Athro Economeg o Aberystwyth yn Llywydd y Gymdeithas Economeg Amaethyddol
Yr Athro Peter Midmore, sydd wedi ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas Economeg Amaethyddol am 2017/18.
11 Mai 2017
Mae Athro Economeg o Brifysgol Aberystwyth wedi’i ethol yn Llywydd y Gymdeithas Economeg Amaethyddol.
Cafodd yr Athro Peter Midmore o Ysgol Fusnes Aberystwyth ei ethol yn ystod cynhadledd flynyddol y Gymdeithas a gynhaliwyd yn Nulyn ym mis Ebrill.
Bydd yn gwasanaethu yn y swydd tan Ebrill 2018.
Sefydlwyd y Gymdeithas Economeg Amaethyddol yn 1926, a hi yw'r prif gorff proffesiynol ac academaidd yn y DU ac Iwerddon sy'n hyrwyddo astudio ac addysgu pob disgyblaeth sydd yn berthnasol i'r diwydiannau amaethyddol, bwyd a chysylltiedig, ac i gymdeithas a'r amgylchedd gwledig.
Pwnc araith lywyddol agoriadol yr Athro Midmore i gynadleddwyr oedd “The Science of Impact and the Impact of Agricultural Science”.
Yn dilyn ei ethol, dywedodd yr Athro Midmore: “Mae’n fraint cael fy ethol yn Llywydd y Gymdeithas Economeg Amaethyddol.
“Mae'r galw am sgiliau a galluoedd economegwyr amaethyddol ar gynnydd. Mae eu cyfraniad at ddatblygu a gweithredu polisi yn hanfodol, nid yn unig wrth ymateb i'r heriau sy’n codi yn sgil Brexit, ond hefyd er mwyn archwilio goblygiadau bwydo poblogaeth sy'n tyfu pan fo’r hinsawdd yn newid a phwysau newydd ar dir yn ymyrryd â manteision ecosystem pwysig.”
Yn ystod y gynhadledd bu hefyd yn cyfrannu persbectif Cymreig i drafodaeth panel ar effeithiau Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan rannu llwyfan gyda Chomisiynydd Ewrop dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Phil Hogan ac Is-Lywydd Senedd Ewrop Mairead McGuinness.
Caiff yr Athro Midmore ei gydnabod fel awdurdod ar faterion datblygu amaethyddol a gwledig, ac mae ganddo brofiad hir o weithio ar y cyd â phartneriaid Ewropeaidd a rhyngwladol.
Mae wedi arwain prosiectau ledled Ewrop ar farchnata bwyd organig ac ar ymchwil ac arloesi mewn amaethyddiaeth, yn ogystal â gwaith ar y cyd ar y Diciâu mewn gwartheg, cyflogaeth cefn gwlad, ac ansawdd bwyd a diogelwch.
Yr haf 2017 hwn bydd yr Athro Midmore yn dechrau gweithio ar brosiect newydd i ddeall risg fferm a'r rôl y gallai yswiriant incwm yn ei chwarae mewn system polisi amaethyddol diwygiedig yn well.