Prosiect cymorth i gyn-filwyr yw’r ‘gorau yng Nghymru’
10 Rhagfyr 2024
Mae prosiect sy’n cefnogi cyn-filwyr wedi’i enwi fel y prosiect cymorth cyfreithiol gorau yng Nghymru mewn seremoni wobrwyo yn Llundain.
Brwydr 50 mlynedd am wirionedd: bomio tafarn yn Birmingham a phris anghyfiawnder
21 Tachwedd 2024
Mewn erthygl yn The Conversation ar 50 mlynedd ers y bomio mewn tafarn yn Birmingham, mae Dr Sam Poyser, Darlithydd mewn Troseddeg, yn trafod effaith ymledol euogfarnau anghyfiawn.
Addewid y Rhuban Gwyn: Lansio ymgyrch i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched
21 Tachwedd 2024
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Llun 25 Tachwedd fel rhan o’i hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched.
Ysgolhaig yn ennill gwobr ymchwil er cof am ymgyrchydd dros hawliau menywod
07 Tachwedd 2024
Mae ysgolhaig o Aberystwyth wedi derbyn gwobr fawreddog a gyflwynir er cof am Gymraes a ymgyrchodd dros hawliau menywod ledled y byd.
Pam mae galwadau i adolygu achos Lucy Letby mor wahanol i ymgyrchoedd camweinyddu cyfiawnder eraill
22 Hydref 2024
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Sam Poyser o Adran y Gyfraith a Throseddeg yn gosod y drafodaeth gyfredol ynghylch dibynadwyedd y dyfarniad yn erbyn cyn-nyrs newyddenedigol Lucy Letby yng nghyd-destun hanes ehangach camweinyddu cyfiawnder.
Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i wella’r gefnogaeth i oroeswyr caethwasiaeth fodern
30 Gorffennaf 2024
Diolch i brosiect ymchwil arloesol dan arweiniad Athro yn y Gyfraith yn Aberystwyth mae gwell dealltwriaeth ynglŷn ag anghenion goroeswyr masnachu pobl a chaethwasiaeth fodern gan y sefydliadau a’r llunwyr polisi sy'n eu cynorthwyo.
Prosiect ymchwil i drais a cham-drin domestig yn rhyddhau adnodd newydd yn Iaith Arwyddion Prydain
14 Mehefin 2024
Mae Prosiect Dewis Choice yn nodi Diwrnod Byd-eang Ymwybyddiaeth am Gam-drin Pobl Hŷn (15 Mehefin) trwy ryddhau fersiwn yn Iaith Arwyddion Prydain o'i animeiddiad trawiadol sy'n tynnu sylw at yr heriau unigryw y mae oedolion hŷn yn eu hwynebu lle y mae camdriniaeth yn digwydd ar yr aelwyd.
Academyddion talentog o Aberystwyth wedi'u dewis ar gyfer rhaglen Crwsibl Cymru
23 Mai 2024
Mae academyddion sy'n ymchwilio i gam-drin domestig a phobl hŷn, problemau pacio, a sut y gellid defnyddio ystadegau ym maes bioleg wedi cael eu dewis ar gyfer rhaglen nodedig i ddatblygu arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru.
Y Brifysgol yn llongyfarch cyn-fyfyriwr ar ei ethol yn Brif Weinidog
20 Mawrth 2024
Mae Meri Huws, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, a’r Athro Jon Timmis, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi llongyfarch Vaughan Gething, sy’n raddedig o Aberystwyth, ar ei ethol yn Brif Weinidog.
Pam y dylai lofruddiodd Brianna Ghey, sy’n eu harddegau, fod wedi parhau’n ddienw
13 Chwefror 2024
Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Kathy Hampson, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg ac arbenigwr ar gyfiawnder ieuenctid, ynghyd â’u chyd-academyddion ym maes Troseddeg Dr Sean Creaney o Brifysgol Edge Hill a’r Athro Stephen Case o Brifysgol Loughborough, yn dadlau nad oedd rhyddhau enwau lofruddion Brianna Ghey, y ddau yn eu harddegau, er lles pennaf cymdeithas.