Ein Prosiectau

Cwpwl oedranus yn eistedd ar fainc yn edrych dros y môr

Mae gennym amrywiaeth fawr o arbenigedd ymchwil ym meysydd y gyfraith a throseddeg, ac mae ein staff wedi sefydlu sawl prosiect arloesol sy'n gwneud gwahaniaeth i grwpiau pendodol yn y gymdeithas.

Rydym wedi denu swm sylweddol o gyllid allanol yn y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys £1,700,000 i'r Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol, a £564,223 ar gyfer ymchwil i allu cyn-filwyr a'u teuluoedd i gyrchu cyfiawnder.

Yma yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn falch iawn o'n hymchwil - ymchwil sydd wedi arwain at sefydlu sawl prosiect ty'n torri tir newydd.

Cliciwch ar y tabiau i ganfod mwy am ein prosiectau a sut rydyn ni wedi llwyddo cyrraedd grwpiau penodol o bobl yn y gymdeithas, i cgynnig cyngor a chefnogaeth cyfreithiol iddynt.

Dewis/Choice

Mae Dewis/Choice yn fenter unigryw sy'n cyfuno rhedeg gwasanaeth â phrosiect ymchwil. Ers iddi gael ei sefydlu yn 2015, bu'r pwyslais ar ymchwil weithgar a chyfranogol wrth gydweithio ag amrywiaeth eang o bobl hŷn. Rydym wedi ceisio dangos 'profiadau byw' pobl drwy amrywiaeth eang o gyfryngau gan gynnwys ffilmiau, llyfrau, cyfnodolion adolygiadau gan gymheiriaid, gweminarau, deisebau, celf a barddoniaeth.

Dyma'r gwasanaeth pwrpasol cyntaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer dynion hŷn, menywod a phobl anneuaidd sydd wedi cael eu camdrin gan bartner a/neu oedolyn sy'n aelod o'r teulu. Roedd ein hymchwil wedi amlygu'r angen am hyfforddiant arbenigol i sefydliadau er mwyn iddynt allu adnabod cynnydd, natur a chymhlethdod camdrin domestig sy'n digwydd yn hwyrach mewn bywyd. Mae llawer o'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi ei ddisgrifio fel rhywbeth sy'n gallu achub bywydau.

Cyfnodolyn Cyfraith a Throseddeg Aberystwyth

Mae Cyfnodolyn Cyfraith a Throseddeg Aberystwyth yn fenter gyffrous sy'n cynnig llwyfan i arddangos gwaith gorau ein myfyrwyr. Mae'n gyfle i gyhoeddi eich ysgrifennu academaidd, yn enwedig os ydych wedi cwblhau darn o ymchwil sylweddol megis traethawd hir. Mae'r Cyfnodolyn hefyd yn coffhau un o gyn fyfyrwyr yr adran, sef Ern Nian Yaw, gan ddyfarnu gwobr flynyddol er cof amdano. Roedd Ern Nian yn fyfyriwr a fu’n allweddol i ddatblygiad y cylchgrwan, ond cafodd ei ladd mewn damwain cyn cyhoddi’r gyfrol gyntaf. Dyfernir y wobr i awdur yr erthygl sydd yn dangos rhinweddau Ern Nian – gallu academaidd arbennig, ymroddiad at waith a manylder. I ganfod mwy, ewch i'r wefan: Aberystwyth Law & Criminology Journal

Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr

Sefydlwyd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn 2015 i fynd i’r afael â’r diffyg cyngor cyfreithiol yng Nghymru gan gysylltu cyn-filwyr â gwasanaethau arbenigol. Mae'r prosiect yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim, cyfeirio arbenigol, gwaith achos ac eirioli ym meysydd dyled a thai, ysgaru, teulu a phlant, gwaith, a cheisiadau anafiadau milwrol i gyn-filwyr yng Nghymru.

Cysylltu: info@veteranslegallinkuk.org

Facebook: www.facebook.com/pg/VeteransLegalLink

Seiliwyd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr er mwyn i gyfreithwyr a myfyrwyr y gyfraith allu defnyddio eu sgiliau i ddod â chyfiawnder cyfartal i gyn-filwyr a'u teuluoedd mewn angen sy'n byw yng Nghymru.

Ers ei sefydlu yn 2015 gan Dr Olaoluwa Olusanya, darlithydd yn y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'r prosiect wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am grant o £20,000 gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn agos at £5,000 gan Gronfa'r Loteri Fawr, ac mae'n dibynnu'n helaeth ar rwydwaith o glinigau cyfreithiol gwirfoddol, elusennau a sefydliadau eraill, gan gynnwys Cyngor ar Bopeth CeredigionGweithredu ar gyfer Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru, a Chyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion.

Yn ogystal â helpu cyn-filwyr ac ymgymryd â'i ymchwil ei hun, mae'r prosiect hwn yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr, gan ddangos iddyn nhw sut mae'r gyfraith yn gweithredu yn y byd go iawn a sut mae'n gallu helpu pobl sydd mewn angen.

Gall myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gofrestru am y lleoliad gwaith hwn - gwaith sy'n ddigon hyblyg i fyfyrwyr sydd ag amserlen brysur, ac mae'n cynnig 80 awr o brofiad academaidd ac ymarferol. Cysylltwch â Dr Olaoluwa Olusanya i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd lleoliadau gwaith a gwirfoddoli.

Ymgysylltu ag Ysgolion a Cholegau

Rydym yn mwynhau gweithio gyda phobl ifanc ac yn awyddus i rannu ein brwdfrydedd am ddisgyblaethau'r gyfraith a throseddeg gyda'r disgyblion yn yr ysgolion a'r colegau lleol.  

Gallwn gynnig gweithdai a sgyrsiau blasu ar adegau sy'n gyfleus i'r ysgol neu goleg. Rydyn ni wedi cynllunio'r gweithdai a'r sgyrsiau blasu gyda chwricwlwm yr ysgol/coleg mewn golwg. Gellir addasu'r rhain i gydfynd ag anghenion cyrsiau penodol.

Bydd y sgyrsiau blasu'n canolbwyntio ar elfen benodol o'r pynciau a ddysgir yn Adran y Gyfraith a Throseddeg. Maent yn cyfuno diddordebau ein staff academaidd â materion byd-eang, cyfoes er mwyn rhoi cipolwg ar fyd y gyfraith.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau i ysgolion a cholegau, cysylltwch â ni dros y ffôn: 01970 621537 neu e-bost (law@aber.ac.uk).

Adroddiad Gwrandawiadau o Bell

Pan digwyddodd y cyfnodau clo yn 2020, symudodd y system gyfreithiol yn gyflym iawn i gynnal gwrandawiadau o bell mewn sawl achos. Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg wedi archwilio effeithrwydd y gwrandawaidau hyn, ac yn dilyn cynhadledd yn 2022, wedi creu adroddiad sydd yn crynhoi profiadau y proffesiwn cyfreithiol, y farnwriaeth, ynghyd a sylwebaeth academaidd, ac sydd yn archwilio'r sgôp i barhau â gwrandawiadau o'r fath i'r dyfodol. Os gwelwch yn dda darllenwch yr adroddiad llawn