Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

myfyrwraig mewn seminar cyfrwng-Cymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cryn dipyn o gyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg - un o’r uchaf yng Nghymru.

Yma yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, rydym yn cynnig sawl cynllun gradd trwy gyfrwng y Gymraeg, ym meysydd y Gyfraith a Throseddeg.

Wrth asutio ein cynlluniau gradd LLB a BA yn y Gyfraith, cewch astudio'r nifer o gredydau priodol trwy gyfrwng y Gymraeg i fod yn gymwys am rai o ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cymorth Ariannol Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gellir astudio mwyafrif modiwlau cwrs LLB Y Gyfraith M100BA Y Gyfraith M103 drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae cyfanswm o 40 allan o 120 o gredydau y flwyddyn ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg ar ein cwrs Troseddeg a'r cwrs LLB dwy flynedd. Bydd yn rhoi'r hawl ichi wneud cais am ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn ogystal â rhai'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Canfod mwy am Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg y Brifysgol.

Mae'r cwrs Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig y nifer fwyaf o gredydau cyfrwng Cymraeg ymhlith prifysgolion Cymru. Er enghraifft, gallech chi gwblhau eich blwyddyn gyntaf yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cwrs yn datblygu drwy'r amser a chynlluniwyd y modiwlau i adlewyrchu'r ddisgyblaeth yng Nghymru, gyda Chymru wrth galon y pynciau a astudir. Mae ein modiwl Trosedd yn y Gymru Gyfoes yn esiampl dda o hyn.

Mae llawer o fanteision i astudio'ch cwrs yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â bod yn rhan o gymuned Gymraeg ei hiaith, byddwch yn meithrin perthynas o gydweithio'n agos â'ch darlithwyr a chyd-fyfyyrwyr, ac yn datblygu sgiliau dwyieithog a fydd yn fantais wrth i chi edrych am waith. Byddwn yn cynnig Tiwtor Personol Cymraeg ei iaith i chi hefyd, a bydd yr hawl gennych i gyrchu nifer o wasanaethau yn eich dewis iaith.

Mae chwilotydd cyrsiau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi gwybodaeth am y cyrsiau rydym yn eu cynnig yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.