Ymchwil

Dyn yn eistedd wrth ddesg yn gwneud ymchwil

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn adran sy'n weithgar ym maes ymchwil ac mae gennym amrywiaeth fawr o arbenigedd ymchwil ym meysydd y gyfraith a throseddeg.

Mae'r pynciau yr ydym yn canolbwyntio arnyn nhw'n cynnwys pobl sy'n cael eu gwthio i'r cyrion oherwydd eu hoedran (yn ifanc neu'n hen), hawliau dynol, mudo, y gyfraith a rhywedd, cyfraith ryngwladol, cyfiawnder ieuenctid, plismona, damcaniaeth gyfreithiol, cyfraith fasnachol, cyfraith gyfansoddiadol, datganoli a chyfansoddiad newidiol y Deyrnas Unedig (DU).

Mae Canolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol yr adran wedi denu £1,700,000 o fuddsoddiad allanol o dan arweinyddiaeth Ms Sarah Wydall, y Prif Arolygydd ar ran nifer o brosiectau sy'n archwilio'r ymateb i gamdrin domestig yn hwyr mewn bywyd, dementia a thrais ar sail cenhedlaeth. Mae ein prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, a arweinir gan Dr Ola Olusanya, wedi derbyn £564,223 ar gyfer ymchwil i allu cyn-filwyr a'u teuluoedd i gyrchu cyfiawnder. Darllenwch mwy am y prosiectau hyn yn Ein Prosiectau.

Mae tri aelod o staff wedi ennill Gwobrau Crwsibl Cymru yn y blynyddoedd diweddar - gwobrau sydd yn targedu ymchwilwyr sydd ar ddechrau neu yng nghanol eu gyrfa ac sy'n cynnig y cyfle iddyn nhw ddatblygu eu potensial fel arweinwyr ym maes ymchwil. Mae tua 30 o fyfyrwyr doethuriaeth yn yr adran ar hyn o bryd - llawer ohonynt o dramor.

Mae ein staff yn cyfrannu'n sylweddol i'r sylfaen ymchwil ym meysydd y Gyfraith a Throseddeg. Mae cyfranogiad o'r fath yn cynnwys darparu arbenigedd pwnc a gwaith sy'n cyfrannu at ddatblygu isadeiledd academaidd a phroffesiynol, rhwydweithio, a gweithgareddau sy'n cael effaith sylweddol. Bu hefyd gyfranogiadau ar lefel genedlaethol, y DU ac yn rhyngwladol i ganoli a gwerthuso, rhoi darlithoedd, arholi allanol, datblygu prosiectau ar y cyd, cynghori ar bolisi ymchwil, yn ogystal â chymryd rhan a threfnu cynadleddau a chyfarfodydd ymchwil.

Rydym wedi gweithio'n agos ag agweddau ar ddatganoli yng Nghymru yn rheolaidd, gan gyfrannu tystiolaeth arbenigol ar lafar i'r Comisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru, y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfu Senedd Cymru. Yn ogystal, bu aelodau o staff ar baneli o arbenigwyr academaidd oedd yn delio â gosodiadau Wales Act 2017 a gynullwyd gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Mae ein staff wedi cynghori'n genedlaethol ac yn rhyngwladol ar bolisi a safonau ymchwil (gan gynnwys i'r AHRC Peer Review College; yr ESRC a Grŵp Ymghynghori ar Ymchwil Cyfiawnder; Gweinyddiaeth Amddiffyn yr Eidal, Canolfan Wyddoniaeth Genedlaethol Gwlad Pwyl, Cyngor Ymchwil Awstria, Cronfa Ymchwil Wyddonol (Gwlad Belg) a Chyngor Ymchwil Awstralia). Mae ymgysylltu â'r sector proffesiynol o ran gwneud ymchwil ac adrodd arno yn rhan sefydledig o'n gweithgarwch, ac mae'n ymestyn ein dylanwad ar lefel unigolyn a sefydliad.

Mae staff ymchwil yn defnyddio'u harbenigedd yn aelodau o gyrff cynghori yn y sector cyhoeddus ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Pwyllgor Ymgynghorol Cymreig Comisiwn y Gyfraith, Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru, Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar weithredu yn erbyn masnachu mewn pobl (GRETA); a'r Grŵp Arwain Atal Caethwasiaeth Cymru.

Yn ogystal, bu ymgysylltu gweithredol â sefydliadau cymdeithas sifil, cyrff cyhoeddus a sefydliadau rhyngwladol ar ffurf adroddiadau a rhoi barn, a thrwy gydweithio yn rhyngwladol a datblygu cyfraith a pholisi. Mae esiamplau yn cynnwys gweithio gyda'r Sefydliad Rhyngwladol ar Gyfraith Ddyngarol ac OIDEL - Geneva; Age International, Cyngor Ewrop, y Sefydliad dros Ddiogelwch a Chydweithio yn Ewrop, Senedd Ewrop, Dirprwyaeth Astudiaethau Mudo-Sweden, y Sefydliad Rhyngwladol ar Fudo, Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar Ffoaduriaid, y Ganolfan Ryngwladol dros Ddatblygu Polisi Mudo, Sefydliad Rhyngwladol Cyfraith Ddyngarol, Sefydliad Prydeinig Cyfraith Ryngwladol a Chymharol; Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Bu staff yn ymgysylltu'n helaeth ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymestyn allan. Dyma rai enghreifftiau o'r pethau y bu ein staff yn ymwneud â nhw, yn ychwanegol at y rhai uchod:

  • cymryd rhan mewn prosiect ar y cyd â Chanolfan Llywodraethiant Cymru yng Nghaerdydd a'r Constitution Unit yng ngholeg prifysgol Llundain (UCL) a arweiniodd at ddau bapur a oedd yn ddylanwadol wrth baratoi'r ffordd i sefydlu model ddatganoli cadw pwerau i Gymru (Delivering a Reserved Powers Model of Devolution for Wales (2015) and Challenge and Opportunity: the Draft Wales Bill 2015 (2016))
  • gweithio gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Abertawe, a'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yng Ngwynedd a Mynwy
  • gweithio gyda Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gwasanaethau Dinasyddion
  • cydweithio â'r corff Pobl a Gwaith ar y rhaglen Buddsoddi Lleol gan Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
  • darparu hyfforddiant i weithwyr camdrin domestig arbenigol ar ran Safe Lives
  • mentora ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy'n gweithio ym maes cyfraith ffoaduriaid o dan gynllun a reolir gan y Refugee Law Initiative ym Mhrifysgol Llundain
  • mentora ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa o dan un o fentrau Cymdeithas Ddysgedig Cymru
  • darparu sesiynau hyfforddi i farnwyr Tribiwnlys yr Iaith Gymraeg
  • darparu sesiynau hyfforddi ar fasnachu mewn pobl i weithwyr proffesiynol priodol, a hynny ledled Ewrop (barnwyr, erlynwyr, yr heddlu, adfocadau, sefydliadau anllywodraethol).