Y Gymdeithas Ymryson

Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ffug achols llys.

Mae’r Gymdeithas Ymryson yn gyfle gwych i gymryd rhan mewn ffug achosion llys o’r enw ymrysonau.

Mae’n gyfle hefyd i ddatblygu’ch dealltwriaeth o’r gyfraith a chyflwyno dadleuon cyfreithiol. Mae hefyd yn gyfle i fireinio’ch sgiliau ymchwil a siarad cyhoeddus.

Mae Cymdeithas Ymryson Prifysgol Aberystwyth ar agor i holl fyfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg  Mae’r gymdeithas yn cwrdd yn wythnosol gan gynnig hyfforddiant ymryson ar gyfer ymrysonwyr newydd a profiadol fel ei gilydd.

Ymrysona yw cyflwyno dadl gyfreithiol ar lafar mewn achosion llys ffug. Diben hyn yw datblygu sgiliau cyfreithiol myfyrwyr a rhoi profiad iddynt sy'n efelychu'r hyn sy'n digwydd mewn achos llys.

I'r rhai sy'n ystyried gyrfa'n eirioli mewn llys barn, mae cael profiad o ymrysona'n hanfodol. Yn ogystal â hynny, mae ymrysona'n datblygu ystod eang o sgiliau sy'n gymwys i yrfaeoedd cyfreithiol a gyrfaoedd mewn meysydd eraill. Yn eu plith mae:

  • hyder wrth siarad yn gyhoeddus
  • sgiliau ymchwil
  • sgiliau ysgrifennu a chyflwyno
  • sgiliau dadansoddi a datrys problemau
  • rheoli amser a'r gallu i gadw'r ddysgl yn wastad pan mae pwysau gwaith.

Mae ymrysona'n rhan o raglen gradd y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Oherwydd hynny, mae'r gymdeithas ymryson yn addysgiadol arwyddocaol gan ei fod yn rhoi'r cyfle i'r aelodau wella eu dealltwriaeth o'r gyfraith a'u sgiliau eirioli. 

Mae’r gymdeithas hefyd yn cynnal sawl cystadleuaeth dros y flwyddyn gan gynnwys y Gystadleuaeth Eiriolaeth ar gyfer Ymrysonwyr Newydd, a chystadleuaeth ymryson ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Yn ystod cystadleuaeth ymrysona mae myfyrwyr yn gweithio mewn parau fel arfer, gyda dau gystadleuydd yn gweithredu ar ran apelydd a dau ar ran yr atebydd. Fel rheol, ceir cwnsler uwch a ieuaf, sy'n delio â defnydd apêl ar wahân. Mae’r gymdeithas hefyd yn trefnu ffug achosion llys, gan gynnwys R v y Tri Mochyn Bach ar gyhuddiad o lofruddiaeth a R v Dorothy o The Wizard of Oz ar gyhuddiad o ddwyn a dynladdiad.

Mae’r Gymdeithas wedi cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau cenedlaethol gan gynnwys Ymryson Cennedlaeethol OUP/ICCA National Moot, Cystadleuaeth Ymryson Cenedlaethol Cymru (lle mae Aberystwyth wedi ennill ddwywaith) a Chystadleuaeth Ymryson Cyfraith Feddygol Prifysgol Caerlyr (lle roedd Aberystwyth yn un o'r ddau dîm yn y rownd derfynol).

Cynhelir sawl achos mewn llysoedd go iawn, gan gynnwys Cystadleuaeth Ymryson a gynhaliwyd yn y Goruchaf Lys yn 2016, ac achos yng Nganolfan Cyfiawnder Aberystwyth. Caiff ymrysonau eu barnu gan gyfreithwyr, ac felly cynigiant gyfle gwych i gwrdd â chyfreithwyr y bargyfreithwyr.

Gwybodaeth bellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Swyddog Ymrysona'r adran: Jan Holloway jah48@aber.ac.uk