Amdanom ni

"Mae pob ysgol y gyfraith gwerth ei halen wedi'i lleoli mewn lle sy'n ffafriol i astudio yn hytrach na busnes." Yr Athro Thomas Levi, Pennaeth Adran y Gyfraith 1924. (cyfieithiad o'r Saesneg)

Dewiswch ddod yma i astudio, a byddwch yn profi amgylchedd cefnogol fydd yn eich ysgogi ac a fydd yn rhoi boddhad i chi mewn adran ddeinamig, flaengar a chanddi hunaniaeth benodol, profiad helaeth, addysgu rhagorol a gweithgarwch ymchwil deinamig, heb sôn am gefnogaeth llyfrgell a darpariaeth TG ardderchog.

Cewch eich addysgu a'ch arwain gan gymuned o ysgolheigion a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar eich cynorthwyo chi i lwyddo a chyflawni eich potensial. Nid ar hap y mae Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru ac yn ail yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ac ar y brig yng Nghymru ac yn 3ydd yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu (Canllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2024). Mae hyn yn ogystal â bod ar y brig yng Nghymru a Lloegr am Fodlonrwydd Myfyrwyr (ACF 2022).

A minnau wedi bod yn ymarferydd cyfreithiol ers dros ddeng mlynedd ar hugain, rwy’n deall gwerth meithrin sgiliau a phrofiad ymarferol i fyfyrwyr yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Yn ogystal â dysgu academaidd rhagorol, mae’r adran yn cynnig llawer o gyfleoedd i wneud hyn. Ymhlith y rhain y mae ein Clinig Cyfraith Teulu lle gall myfyrwyr wneud gwaith achos dan gyfarwyddyd cyfreithiwr cymwysedig, ein cymdeithas ymryson weithgar lle gall myfyrwyr feithrin ac ymarfer eu sgiliau eirioli a pharatoi achos, a chyfleoedd i wirfoddoli ar gyfer ein prosiect ymchwil Dewis/Choice sy’n torri tir newydd wrth ganolbwyntio ar fynd i’r afael â phwnc sy’n prysur ddatblygu’n uchel ei broffil, sef cam-drin yr henoed. Mae'r prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr hefyd yn cynnig cyfleoedd i wrifoddoli. Er enghraifft, rhoddodd y prosiect waith i dros 30 o fyfyrwyr i gymryd rhan mewn hyfforddiant neilltuol i'w paratoi ar gyfer gweithio ar achosion a rhoi cefnogaeth ar-lein, a hynny ar y cyd â'r prosiect 'Both Parents Matter'.

Gall dewis Prifysgol fod yn brofiad dyrys. Ceir dewis eang, ac nid yw bob amser yn rhwydd i ddewis yr un sy’n iawn i chi. Ar ôl dweud hynny, os oes gennych ddiddordeb mewn astudio’r Gyfraith neu Droseddeg mewn Prifysgol sefydledig mewn rhan brydferth ac unigryw o’r wlad, peidiwch ag edrych yn bellach nag Aberystwyth. Mynnwch gyfle i ymweld â ni ar un o'n Diwrnodau Agored. Edrychaf ymlaen at eich croesawu chi yma.

Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran

Ein hanes

Dysgwyd y Gyfraith yn Aberystwyth ers 1901. Mae gan yr Adran draddodiad balch o ysgolheictod ac ymchwil ac mae hi wedi paratoi cenedlaethau o bobl o bob cwr o’r byd am yrfaoedd proffesiynol a bywyd yn gyffredinol.

Rydym wedi addysgu gweinidogion y wladwriaeth, gwleidyddion ac arweinwyr. Ond rydym hefyd wedi addysgu pobl sydd wedi dod yn gyfreithwyr mewn cwmnïau amlwladol (yn rhai bach, canolig a mawr), bargyfreithwyr, athrawon, swyddogion yr heddlu, darlithwyr prifysgol, newyddiadurwyr, cyflwynwyr teledu, gweithwyr cymdeithasol, a swyddogion y gwasanaeth prawf - pob un yn cyfrannu at newid cymdeithas er gwell yn eu ffordd eu hunain.

Mae hanes hir yr Adran yn tystio i graffter yr addysgu.

Rhai o'n cyn-fyfyrwyr nodedig

Graddiodd Iris de Freitas o Adran y Gyfraith, fel oedd hi bryd hynny, yn 1927 a hi oedd y ddynes gyntaf i ymarfer y Gyfraith yn y Caribî. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi enwi rhan o'r brifysgol ar ei hôl hi. Mae Ystafell Iris de Freitas yn cynnig mannau astudio i fyfyrwyr.

Roedd Yr Athro Carwyn Jones yn Brif Weinidog Senedd Cymru o 2009 i 2018. Ymunodd ag Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Athro yn y Gyfraith yn 2020.

Ein cyrsiau

Mae ein rhaglenni gradd i israddedigion yn amrywio yn yr ystod o bynciau a gynigir. Gallwch astudio’r gyfraith neu droseddeg fel un pwnc neu gyda’i gilydd, neu eu cyfuno â phynciau eraill. At hynny, rydym yn cynnig graddau arbenigol megis Hawliau Dynol a Throseddeg a Seicoleg Droseddol.

Mae ein holl gyrsiau gradd yn cynnig sylfaen dda i weithio yn y byd cyfreithiol. Bydd y graddau hyn yn llwyfan ardderchog i’r rheiny yn eich plith sy’n dymuno paratoi am Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr newydd, a bwriadwn gyflwyno cyrsiau israddedig ac uwchraddedig newydd fydd wedi’u hanelu at baratoi myfyrwyr yn drwyadl am y llwybr newydd hwn i gymhwyso yn gyfreithiwr.

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i sefydlu gyrfaoedd yn gyfreithwyr a bargyfreithwyr, heddweision, gweithwyr cymdeithasol, newyddiadurwyr, bancwyr buddsoddi, athrawon a swyddogion prawf, ymhlith eraill. 

Ar lefel uwchraddedig, mae gennym gyrsiau gradd mewn Hawliau Dynol a Chyfraith Ddyngarol, Cyfraith Busnes Rhyngwladol, Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, Cyfiawnder Ieuenctid a hefyd graddau MPhil, LLM a PhD yn gyfleoedd ymchwil.

Ein staff

Mae diddordebau ac arbenigedd ein staff yn ymwneud ag ystod eang o bynciau. Mae llawer o'n staff yn cymryd rhan mewn dadleuon a gwaith llunio polisi gartref a thramor. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda'r Undeb Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, Cyngor Ewrop, a llywodraethau a chorfforaethau canolog a datganoledig.

Ceir ffocws cryf ar Hawliau Dynol ac amrywiaeth, ac rydym yn cynnig cyrsiau mewn hawliau dynol ar lefel israddedig ac uwchraddedig. Mae materion sy’n ymwneud â rhywedd, diwylliant, iaith, ieuenctid, cyn-filwyr a’u teuluoedd, a henaint yn themâu pwysig yng ngwaith yr adran. Mae lle pwysig i fusnes a chyfraith fasnachol yn ein dysgu hefyd, gan gynnwys cwrs LLB arbenigol mewn cyfraith fusnes.

Ein cyfleusterau

Mae ein cyfleusterau yn cynnwys:

  • Llyfgell Hugh Owen – sydd yn cynnwys casgliad eang o ddeunyddiau cyfreithiol, llyfrau, cyfnodolion ac adroddiadau cyfreithiol, a chasgliad sylweddol o ddeunydd Cyfraith Ryngwladol; 200 o fannau astudio, ystafelloedd astudio unigol a grŵp y gellir eu harchebu, ystafelloedd cyhoeddus gyda chyfrifiaduron, mynediad diwifr at y we, desgiau cymorth cyfrifiadurol a llyfgell, a llyfrgellydd cyfreithiol arbennigol.
  • Adnoddau Cyfrifiadura – mewn 26 lleoliad, gyda 13 o’r rhainy bob amser ar gael ar gyfer gwaith academaidd unigol yn ogystal â dros 40,000 o gyfnodolion electronig ar gyfer ymchwil cyfreithiol a throseddegol, a chronfeydd data cyfreithiol arbenigol megis Lexis a Westlaw a ddefnyddir yn fasnachol yn y proffesiwn ledled y byd;
  • Llyrfgell Genedlaethol Cymru – un o ddim ond pum llyfgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig, sy'n derbyn un copi o bob cyhoeddiad ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys ffilmiau, fideos, llyfrau a phapurau newydd, llawysgrifau, mapiau, sain, ffotograffau, gwaith celf ac archifau.

Ein henw da

Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu ym maes Troseddeg (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times a'r Sunday Times).

Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Brofiad Myfyrwyr ym maes Troseddeg (Canllaw Prifysgolion Da 2024, The Times a'r Sunday Times).

Ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am brofiad myfyrwyr ym maes y Gyfraith (Canllaw Prifysgolion Da The Times & Sunday Times, 2021).

Cytunodd 100% o fyfyrwyr M900 Troseddeg bod y staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol (ACF 2022).

Cytunodd 100% o fyfyrwyr M900 Troseddeg bod y staff yn dda am esbonio pethau (ACF 2022).

Gradd i'r Gweithle – Mae 77% o'n graddedigion yn dod o hyd i waith proffesiynol neu'n mynd i astudio ar lefel uwchraddedig 6 mis ar ôl graddio, yn ôl y canlyniadau diweddaraf. (HESA 2018).

Bywyd Myfyrwyr yn Aberystwyth

Mae Aberystwyth yn dref fach a chanddi bersonoliaeth fawr ac ymdeimlad o gymuned garedig. Yn gampws-brifysgol, pa un a eich bod yn dewis byw mewn llety prifysgol neu lety preifat, gellir cerdded i bobman.

Does dim diffyg adloniant ym Mhrifysgol Aberystwyth, er ei maint cymharol fach. Gallwch ddisgwyl digwyddiadau, cymdeithasau, nosweithiau comedi, a chymaint mwy wrth astudio yma. Os oes gennych chi hobi, bydd cymdeithas i ymuno â hi. Os nad oes cymdeithas ar gyfer eich hobi chi yn Aberystwyth, ewch ati i ffurfio un. Mae'n hawdd i wneud hynny ac yn ffordd wych i wneud ffrindiau.

Cewch hefyd ddigon o gyfle i fod yn rhan o gymdeithasau a phrosiectau a fydd yn ehangu'ch dysgu.

Mae Cymdeithas y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei rhedeg gan fyfyrwyr ac mae croeso i unrhyw fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio ac ymarfer y gyfraith, gwella cyfleoedd gwaith, neu ddysgu am sut mae'r gyfraith yn cael effaith arnom yn ein bywydau bob dydd. Mae'r gymdeithas yn ymfalchïo yn ei chymuned groesawgar a chynhwysol o unigolion o anian debyg - pob un yn teimlo angerdd tuag at bopeth cyfreithiol.

Mae’r Gymdeithas Ymryson yn gyfle gwych i gymryd rhan mewn ffug achosion llys, a elwir yn ymrysonau. Mae’n gyfle hefyd i ddatblygu’ch dealltwriaeth o’r gyfraith a chyflwyno dadleuon cyfreithiol. Yn ogystal â hynny, mae'n gyfle i fireinio’ch sgiliau ymchwil a siarad cyhoeddus. Mae’r gymdeithas yn agored i holl fyfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg.

Pam ddim gwirfoddoli gyda'n prosiect ymchwil, Dewis/Choice, sy'n torri tir newydd. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar mynd i'r afael â'r broblem o gamdriniaeth pobl hŷn - problem sy'n mynnu sylw yn fwyfwy cynyddol. Gweler 'Ein prosiectau' i gael rhagor o wybodaeth.