Prosiect cymorth i gyn-filwyr yw’r ‘gorau yng Nghymru’

Gweithiwr achos Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr Megan Perrins (canol) yn derbyn y wobr ar ran y tîm yn y seremoni wobrwyo yn Llundain ar 4 Rhagfyr 2024; gyda Tamara Cohen, cyflwynydd y digwyddiad a sylwebydd gwleidyddol; a Mark Evans, Is-lywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr.

Gweithiwr achos Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr Megan Perrins (canol) yn derbyn y wobr ar ran y tîm yn y seremoni wobrwyo yn Llundain ar 4 Rhagfyr 2024; gyda Tamara Cohen, cyflwynydd y digwyddiad a sylwebydd gwleidyddol; a Mark Evans, Is-lywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr.

10 Rhagfyr 2024

Mae prosiect sy’n cefnogi cyn-filwyr wedi’i enwi fel y prosiect cymorth cyfreithiol gorau yng Nghymru mewn seremoni wobrwyo yn Llundain.

Wedi'i leoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn rhoi cyngor a chymorth cyfreithiol am ddim i gyn-filwyr a’u teuluoedd ledled Cymru.

Enillodd y prosiect y wobr am y ‘Cyfraniad Pro Bono Gorau’ yng Nghymru yng Ngwobrau Pro Bono LawWorks 2024, a gynhaliwyd yng Nghymdeithas y Cyfreithwyr yn Llundain ar 4 Rhagfyr.

Mae'r gwobrau blynyddol yn dathlu gwaith unigolion a sefydliadau sy'n gwirfoddoli eu gwasanaethau am ddim a'r effaith gadarnhaol y maent wedi'i chael ar y rhai a gynorthwywyd.

Mae Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, a sefydlwyd yn 2015 gan Bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Dr Ola Olusanya, yn agosáu at ei ben-blwydd yn ddeg oed.

Arweinir y prosiect gan y cyfreithiwr Victoria Knapp a’r gweithiwr achos cyfreithiol Megan Perrins. Maent yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr ac uwchraddedigion Prifysgol Aberystwyth, a thîm o ymchwilwyr a datblygwyr meddalwedd sy’n cyfrannu at fynediad at gyfiawnder i gyn-filwyr mewn nifer o wahanol sectorau.

Dywedodd Victoria Knapp:

“Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon gan LawWorks i gydnabod ein hymdrechion i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu ac sy'n dioddef o ganlyniad uniongyrchol i hynny. Rydym yn ddiolchgar i’r cyfreithwyr niferus sy’n gwirfoddoli eu hamser, ac i’r Loteri Genedlaethol am gefnogi’r prosiect a sicrhau y gall y prosiect barhau i ddarparu cymorth a chyngor hanfodol.  Hoffai’r tîm neilltuo’r wobr i’n ffrind da a chyd-aelod o’n tîm, Simon Marshall, a fu farw yn gynharach eleni.

“Dyma’n blwyddyn brysuraf ers ein sefydlu, ac rydym wedi gweld galw sylweddol am y gwasanaeth. Rydym yn rhagweld y bydd y galw ond yn cynyddu, ac edrychwn ymlaen at yr heriau hynny a chyrraedd ein carreg filltir o 10 mlynedd ym mis Ionawr 2025.”

Wrth sôn am enillwyr y gwobrau, dywedodd Rebecca Wilkinson, Prif Weithredwr LawWorks:

"Gwobrau Blynyddol LawWorks yw uchafbwynt ein blwyddyn; mae clywed am yr effaith y mae gwaith pro bono yn ei chael ar fywydau pobl yn parhau i ategu ein hymrwymiad i ddatblygu a chefnogi gwaith pro bono cyfreithwyr o fewn yr ecosystem mynediad at gyfiawnder. Rydym mor falch o waith ein sefydliadau sy’n aelodau, a’r cyfreithwyr unigol oddi mewn iddynt, sy’n rhoi o’u hamser i helpu eraill.”

Wedi'i ariannu gan y Loteri Genedlaethol, mae tîm Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn cynorthwyo cannoedd o gyn-filwyr sydd â phroblemau cyfreithiol bob blwyddyn. Mae’r prosiect yn gweithio gyda 40 o sefydliadau partner ledled Cymru a'r DU, gan gynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol, Help for Heroes, GIG Cymru i Gyn-Filwyr, Alabaré Christian Care & Support, Woody's Lodge, Byddin yr Iachawdwriaeth, a Chymdeithas y Milwyr, y Morwyr, yr Awyrenwyr a’u Teuluoedd (SSAFA).