'Hanfodol' gwrando ar leisiau plant ynghylch cyfiawnder ieuenctid - adroddiad

Fe wnaeth grŵp cyfeirio'r prosiect gyfansoddi a recordio rap yn rhan o'r prosiect.

Fe wnaeth grŵp cyfeirio'r prosiect gyfansoddi a recordio rap yn rhan o'r prosiect.

12 Rhagfyr 2024

Mae'n hanfodol bod asiantaethau cyfiawnder ieuenctid yn gofyn i blant am eu barn ynghylch materion sy'n effeithio arnynt, yn ôl adroddiad newydd.

Roedd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan academyddion o Brifysgolion Aberystwyth a Loughborough ac a ariannwyd gan Sefydliad Nuffield, yn canolbwyntio ar ddeall canfyddiadau a phrofiadau plant sy’n dod i gyswllt â’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr.

Roedd yr astudiaeth yn cyd-fynd â dull 'Plentyn yn Gyntaf' y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, sy’n llywio pob agwedd ar waith gyda phlant sydd mewn trwbl. Mae 'Plentyn yn Gyntaf' yn seiliedig ar yr ymchwil a'r dystiolaeth ddiweddaraf a’i  nod yw cadw cymunedau'n ddiogel trwy helpu plant i gyflawni eu canlyniadau gorau ac atal troseddu.

Pwysleisiodd yr ymchwil bod angen symud y tu hwnt i bolisïau ac arferion sy'n canolbwyntio ar oedolion er mwyn sicrhau bod plant sy'n dod i gyswllt â'r system gyfiawnder “yn cael eu clywed, a bod eu barn yn cael ei pharchu".

Mae'r adroddiad yn amlinellu argymhellion ar gyfer gwella’r cydweithio ar bob lefel o'r system Cyfiawnder Ieuenctid, gan gynnwys ymgorffori dulliau cydweithio 'Plentyn yn Gyntaf' ym mhob asiantaeth; cynnwys plant wrth wneud penderfyniadau; niwtraleiddio anghydbwysedd pŵer trwy arferion sy'n gyfeillgar i blant ac amgylcheddau croesawgar; sicrhau dulliau cydweithio cyson ar draws yr heddlu, y llysoedd a’r gwasanaethau dalfa; ac ymgorffori lleisiau plant ym mhob ymchwil ac wrth ddatblygu polisïau. 

Roedd Dr Kathy Hampson, Darlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn rhan o'r tîm ymchwil: 

"Mae yna gyfle gwirioneddol yma i wneud gwahaniaeth i'r ffordd y mae plant yn profi cyfiawnder ieuenctid. Trwy roi llais iddynt wrth wneud penderfyniadau (o ran eu siwrnai cyfiawnder ieuenctid eu hunain ac yn ehangach o fewn y sector), rydym yn llawer mwy tebygol o weld Plentyn yn Gyntaf yn cael ei ymgorffori mewn arferion gwaith."

Mae Andrea Nisbet yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Loughborough:

"Mae hwn wedi bod yn brosiect hynod gyffrous a diddorol i fod yn rhan ohono. Mae wedi bod yn fraint cael siarad â chymaint o blant a chlywed eu barn am ystod o brofiadau - da a drwg, a fydd, gobeithio, yn arwain at newidiadau cadarnhaol i bolisïau ac arferion gwaith ym maes cyfiawnder ieuenctid". 

Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar un agwedd allweddol ar y fframwaith 'Plentyn yn Gyntaf' – sef cydweithio â phlant – gan edrych ar sut y gall eu cyfranogiad lywio gwell canlyniadau ar draws y system Cyfiawnder Ieuenctid yn ei chyfanrwydd.

I rymuso plant, bu grŵp cyfeirio’r prosiect, a oedd yn cynnwys plant â phrofiad o’r system gyfiawnder, yn cydweithio ar bob agwedd ar y prosiect. Buont yn cydweithio ar ymchwil greadigol, ac fe wnaethant hyd yn oed recordio cân rap mewn stiwdio broffesiynol, gan gyfuno eu geiriau â barn y rhai a gymerodd ran.

Cododd pedair thema allweddol o’r cyfweliadau â phlant mewn gwahanol rannau o'r system cyfiawnder ieuenctid:parch a chyfathrebu, dyheadau a chefnogaeth, perthnasoedd a'r amgylchedd, a chysondeb ar draws asiantaethau.

Mae canfyddiadau'r ymchwil yn herio asiantaethau cyfiawnder ieuenctid i gofleidio egwyddorion cydweithio 'Plentyn yn Gyntaf'. Bydd adnoddau ymarferol, gan gynnwys adnoddau hyfforddi, dulliau creadigol, a rap grŵp cyfeirio'r prosiect, yn cael eu rhannu ag ymarferwyr i helpu i ymwreiddio'r arferion gwaith hyn. 

Mae'r adroddiad llawn ar gael yma:
https://www.lboro.ac.uk/subjects/social-policy-studies/research/child-first-justice/examining-childrens-perspectives.