Lleisiau na chânt eu clywed: profiadau menywod hŷn o gam-drin domestig a thrais rhywiol - ymchwil

Llun: Artem Labunsky, Unsplash

Llun: Artem Labunsky, Unsplash

03 Chwefror 2025

Mae angen gwneud mwy i gynorthwyo menywod hŷn sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ôl ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dros gyfnod o bron i bedair blynedd, mae tîm prosiect Dewis Choice wedi cofnodi straeon tair menyw hŷn sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu priodasau, a safbwyntiau’r ymarferwyr sy'n eu cynorthwyo.

Cafodd y tair menyw, sydd i gyd rhwng 61 ac 89 oed, eu cyfeirio at Dewis Choice i gael cefnogaeth ar ôl dioddef blynyddoedd o gam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae eu straeon yn cynnig dealltwriaeth fanwl o natur ac effaith cam-drin domestig a thrais rhywiol yng nghyd-destun priodas a'u heffeithiau uniongyrchol a hirdymor.

Mae'r ymchwil, a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, hefyd yn ystyried pa ffactorau sy'n dylanwadu ar ddioddefwyr hŷn sy'n chwilio am gymorth, a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt pan fyddant yn gwneud hynny.

Dywedodd Rebecca Zerk, Cyd-Arweinydd Menter Dewis Choice a Chyfarwyddwr y Ganolfan Oedran, Rhywedd a Chyfiawnder Cymdeithasol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Gall trais rhywiol effeithio ar bobl o bob oedran a chefndir. Serch hynny, yn hanesyddol, prin fu'r ymchwil ar brofiadau menywod hŷn o drais rhywiol, ac maent wedi'u hepgor o samplau data, gan adael bwlch yn ein dealltwriaeth o natur trais rhywiol tuag at fenywod hŷn, a pha mor gyffredin ydyw. Trwy ddod â'r mater hwn i'r amlwg, rydym yn ceisio sicrhau llais clir i ddioddefwyr benywaidd hŷn, gan fynd i’r afael â bwlch sylweddol yn yr ymchwil.”

Dywedodd Elize Freeman Cyd-Arweinydd Menter Dewis Choice:

“Mae pobl hŷn sydd wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol yn wynebu rhwystrau ychwanegol unigryw wrth chwilio am help a chael gafael ar gymorth. Mae eu rhwydweithiau cymdeithasol a'u systemau cymorth yn gallu bod yn llai - oherwydd ymddeoliad, colledion sy'n gysylltiedig ag oedran, dirywiad mewn iechyd corfforol a gwybyddol a chyfyngiadau cynyddol o ran symudedd. Gall agweddau a disgwyliadau cymdeithasol traddodiadol tuag at briodas a rolau rhywedd gael effaith barhaol ar ddisgwyliadau menywod hŷn ynglŷn â chefnogaeth, gan adael rhai’n teimlo nad oes ganddynt ddewis ond parhau i fyw gyda'r gamdriniaeth.” 

Ychwanegodd Rebecca Zerk:

“Trwy gynnal sgyrsiau manwl â'n cleientiaid a'n hymarferwyr, daeth i’r amlwg bod yna nifer o ffactorau personol, cymdeithasol a systemig cymhleth ar waith sy'n rhwystro pobl rhag chwilio am gymorth. Ar ben hyn mae yna ddiffyg gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer pobl hŷn sydd wedi dioddef trais rhywiol, er gwaetha’r ffaith y gallai eu profiadau a'u hanghenion fod yn wahanol i rai menywod iau. 

“Trwy ein gwaith yn Dewis Choice, rydym yn galw am ymdrechion parhaus i godi ymwybyddiaeth am drais rhywiol ymhlith pobl hŷn ac i annog dioddefwyr i chwilio am gymorth. Mae angen gwneud ymchwil pellach i ddarparu sylfaen o dystiolaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu polisïau a dulliau gweithredu. Ac mae angen cyllid penodedig i ddarparu gwasanaethau cymorth hirdymor, dwys a phenodol i ddiwallu anghenion cymorth amlweddog dioddefwyr hŷn.”

Mae Menter Dewis Choice yn astudiaeth hirdymor yn ymchwilio i brofiad dioddefwyr/goroeswyr cam-drin domestig yn ddiweddarach yn eu bywyd. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth i bobl hŷn sydd wedi cael profiad o gam-drin domestig.  Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw ati fel model o arfer gorau.