WordPress

Mae WordPress yn ddarn o feddalwedd y gellir ei defnyddio i greu gwefan a/neu flog.

Gellir defnyddio WordPress ar gyfer gwefannau hunangynhwysol am brosiectau neu ddigwyddiadau, neu i rannu newyddion a diweddariadau. Nid dyma'r lle cywir ar gyfer gwefannau neu dudalennau gwe adrannol sy'n trafod gweithgareddau craidd y Brifysgol - dylai'r rhain fod ar brif wefan Prifysgol Aberystwyth, a dylid eu golygu drwy'r CMS.

Yn Aberystwyth mae gennym 2 rwydwaith WordPress ar gael:

Rhwydwaith Blogio a Phrosiectau Mewnol

wordpress.aber.ac.uk

Mae'r rhwydwaith hwn ar gyfer prosiectau mewnol, a blogio personol staff neu fyfyrwyr (sy'n gysylltiedig â gwaith/astudio).

Rhwydwaith Ymchwil a Chydweithio Allanol

wp-research.aber.ac.uk

Mae'r rhwydwaith hwn ar gyfer gwefannau ymchwil neu safleoedd eraill lle mae angen i ddefnyddwyr allanol allu cyfrannu tuag at y safle.

Ar y rhwydwaith hwn mae'n bosibl creu safleoedd gyda'u parth neu eu his-barth eu hunain, yn ogystal â'u brandio a'u harddulliau eu hunain.

Os oes gennych ddiddordeb mewn creu gwefan ymchwil newydd, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl yn ystod eich camau cynllunio i drafod eich anghenion.

Os ydych chi'n barod i greu eich safle, llenwch y Ffurflen Gais Safle WordPress.