Hygyrchedd ar y We

Gwneud ein gwefan yn fwy hygyrch.

Daeth rheoliadau newydd i rym ar gyfer cyrff sector cyhoeddus ar 23 Medi 2018. Er mwyn bodloni gofynion y rheoliadau newydd hyn, mae'n rhaid i ni wneud ein gwefan yn fwy hygyrch a darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr yn egluro pa mor hygyrch ydyw.

Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018

Beth mae hygyrchedd ar y we yn ei olygu?

Mae gwneud gwefan yn hygyrch yn golygu sicrhau ei bod yn gallu cael ei defnyddio gan gymaint o bobl â phosibl, gan gynnwys y rhai sydd â nam ar eu:

  • golwg - pobl sydd â nam difrifol ar y golwg (dall), nam ar y golwg (rhannol ddall) neu liwddall
  • clyw - pobl sydd yn fyddar neu’n drwm eu clyw
  • symudedd - pobl sy'n ei chael hi'n anodd i ddefnyddio llygoden neu fysellfwrdd
  • meddwl a deall - pobl sydd â dyslecsia, awtistiaeth, neu anawsterau dysgu

Mae gan o leiaf 1 o bob 5 o bobl yn y DU salwch, nam, neu anabledd tymor hir. Mae gan lawer mwy anabledd dros dro.

Mae hygyrchedd yn golygu sicrhau fod cynnwys a chynllun eich gwefan yn ddigon clir a syml fel bod y rhan fwyaf o bobl yn gallu ei defnyddio fel y mae, ond gan gynorthwyo'r rhai hynny sydd angen addasu pethau. 

Er enghraifft, gallai rhywun sydd â nam ar eu golwg ddefnyddio darllenydd sgrin (meddalwedd sy'n caniatáu i ddefnyddiwr we-lywio gwefan ac sy'n darllen y cynnwys yn uchel), adnodd braille neu chwyddwr sgrin. Neu gallai rhywun sydd ag anawsterau echddygol ddefnyddio llygoden arbennig, meddalwedd adnabod llais neu efelychydd bysellfwrdd ar y sgrin. 

Cyfrifoldeb y brifysgol

Mae staff y Gwasanaethau Gwybodaeth yn gyfrifol am sicrhau hygyrchedd y wefan yn ei chyfanrwydd. Mae hyn yn cynnwys pethau fel:

  • sicrhau bod modd gwe-lywio'r safle heb lygoden
  • sicrhau bod modd i ddefnyddwyr ehangu maint y testun heb wneud y dudalen yn annarllenadwy
  • sicrhau bod delweddau a ddefnyddir ym mhennyn a throedyn tudalennau gwe yn cynnwys testun amgen 
  • sicrhau fod gan ffurflenni labeli maes
  • sicrhau fod digon o gyferbyniad rhwng y testun a lliw'r cefndir

Cyfarwyddyd i Ddefnyddwyr CMS

Chi sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y cynnwys yr ydych yn ei greu gan ddefnyddio’r CMS yn hygyrch. Mae yna nifer o awduron CMS a nifer o weddalennau ar ein safleoedd, felly mae angen i chi fod yn gyfrifol am eich cynnwys eich hun. Efallai eich bod eisoes yn creu cynnwys hygyrch, ond edrychwch ar y ddogfen isod i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau hyn.

I'ch helpu i asesu a gwella hygyrchedd eich cynnwys, defnyddiwch y dogfennau isod:

Hyfforddiant:

Hyfforddiant Hygyrchedd Digidol i Ddefnyddwyr CMS

Cyfarwyddyd i Reolwyr

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cynnwys yr ydych yn ei ddarparu ar gyfer Golygwyr y CMS yn hygyrch. Er nad chi sy’n rhoi’r cynnwys ar y wefan, mae angen i chi ddeall sut i ddarparu eich cynnwys yn y fformat gorau, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol (megis testun amgen). Efallai eich bod eisoes yn creu cynnwys hygyrch, ond edrychwch ar y ddogfen isod i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau hyn.

Archebwch le ar sesiwn Hyfforddiant Hygyrchedd Digidol i Reolwyr cyn gynted â phosibl.