Dathlu Wythnos Ffoaduriaid 2024 yn Aberystwyth

19 Mehefin 2024

Daeth ffoaduriaid, sefydliadau cymorth lloches, llunwyr polisi ac ymchwilwyr academaidd o bob rhan o Gymru ynghyd yn Aberystwyth ddydd Mercher 19 Mehefin ar gyfer dathliad arbennig o gelf, cerddoriaeth, barddoniaeth a chymunedau amrywiol i nodi Wythnos Ffoaduriaid 2024.

Rhyfel Wcráin: pam fod gwledydd canol Asia am symud i ffwrdd o reolaeth Rwsia

03 Mehefin 2024

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Ana Mahon o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod sut mae cenhedloedd canol Asia yn troedio llinell denau rhwng mynd ar ôl mwy o annibyniaeth oddi wrth Rwsia a pheidio ag amharu ar y cydbwysedd grym yn rhanbarthol.

Ganrif yn ôl aeth menywod Cymru ati i apelio’n daer am heddwch byd – dyma eu stori

29 Mai 2024

Mewn erthygl yn The Conversation mae Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Athro Mererid Hopwood o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn edrych ar stori pedair Cymraes a deithiodd i America i gyflwyno deiseb dros heddwch byd-eang.

Rhyfel Wcráin: Mae Putin yn defnyddio plant Rwsia i hyrwyddo ei fersiwn ef o hanes ar Ddiwrnod Buddugoliaeth

08 Mai 2024

Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Dr Allyson Edwards o Brifysgol Caerfaddon yn trafod sut mae plant Rwsia yn ganolog i gadw cof y rhyfel yn fyw gyda rhuban Rhuban Sant Siôr.

Cyn-Brif Weinidog i drafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru

02 Mai 2024

Bydd cyn-Brif Weinidog Cymru yn trafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru mewn sgwrs yn y Brifysgol yn ddiweddarach y mis hwn.

Darlith gyhoeddus ar ddyfodol y Deyrnas Unedig

19 Ebrill 2024

“Fydd y Deyrnas Unedig yn goroesi?” yw’r pwnc llosg gwleidyddol a fydd yn destun darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Rhyfel Wcráin: Mae defnydd dinistriol Rwsia o ‘glide-bombs’ o’r oes Sofietaidd yn dangos bod angen systemau amddiffyn awyr ar Kyiv ar frys.

12 Ebrill 2024

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Gerald Hughes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod defnydd dinistriol Rwsia o 'glide-bombs' yn Wcráin.

Rhyfel Wcráin: Gwragedd milwyr Rwsiaidd yn fwyfwy di-flewyn-ar-dafod yn eu gwrthwynebiad

07 Mawrth 2024

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod sut mae gwragedd milwyr wedi dod i’r amlwg fel un o’r ychydig ffynonellau sy’n beirniadu’n agored y modd y mae’r wladwriaeth wedi ymdrin â rhyfel Rwsia yn Wcrain.

Arddangosfa ‘Creu Man Diogelach’ yn Aberystwyth

01 Mawrth 2024

Mae arddangosfa sy'n edrych ar rym gweithredu heb arfau gan sifiliaid mewn ardaloedd o wrthdaro treisgar yn cael ei harddangos yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Arddangosfa ffotograffiaeth arloesol i ddarlunio dyfodol Cymru, yr Alban a Chatalwnia

07 Chwefror 2024

Ein hacademyddion yn curadu arddangosfa ffotograffiaeth sy'n edrych ar agweddau tuag at annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia.

Ymateb arweinydd Plaid Cymru i Adroddiad y Comisiwn Cyfansoddiadol

24 Ionawr 2024

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn rhoi ei ymateb i adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru mewn digwyddiad a drefnir gan y Brifysgol ar ddiwedd y mis.

Mamau yn gwnïo cwilt i hybu trafodaethau am fwydo babanod

24 Ionawr 2024

Mae mamau wedi bod yn gwnïo cwilt i annog trafodaethau am y dewisiadau maent yn eu gwneud wrth fwydo babanod, yn rhan o brosiect academydd o Brifysgol Aberystwyth.

Ymchwilio i effaith trais ar sail rhywedd ar ddynion a bechgyn yn Nigeria

15 Ionawr 2024

Effaith trais ar sail rhywedd ar ddynion a bechgyn yn Nigeria yw ffocws astudiaeth newydd yn y Brifysgol yn sgil dyfarnu cymrodoriaeth o fri.

Humza Yousaf: sut i ddeall ffrae Prif Weinidog yr Alban gyda David Cameron am ei gyfarfod COP28 gydag Arlywydd Twrci

14 Rhagfyr 2023

Mewn erthygl a ysgrifennwyd ar y cyd yn The Conversation, mae Dr Elin Royles o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn esbonio'r Ysgrifennydd Tramor David Cameron yn ceryddu Prif Weinidog yr Alban am iddo fynd yn groes i brotocol drwy gynnal cyfarfodydd gydag arweinwyr tramor yn COP28.

A yw honiadau bod Tatariaid Crimea yn cael eu trin yn waeth o dan Putin na Stalin yn wir? Mae arbenigwr yn edrych ar y dystiolaeth

24 Tachwedd 2023

Wrth ysgrifennu yn the Conversation, mae Dr Gerald Hughes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod a yw Tatariaid Crimea yn cael eu trin yn waeth o dan Putin na Stalin.

Mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i annog ymfudwyr i deimlo’n gartrefol

16 Tachwedd 2023

Mewn erthygl yn The Conversation mae Dr Huw Lewis o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ar y cyd gydag academyddion o brifysgolion eraill yng Nghymru, yn esbonio sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio i gynorthwyo i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

Israel, Palesteina a hanes y Blaid Lafur sydd wedi gwneud safbwynt Keir Starmer mor anodd

09 Tachwedd 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae’r Darlithydd mewn Hanes Rhyngwladol Dr James Vaughan, yn trafod y traddodiad hir o wrthdaro rhwng carfanau pro-Seionaidd a phro-Arabaidd o fewn y Blaid Lafur.

Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y gwrthdaro yn ardaloedd ffindirol Cwrdaidd

08 Tachwedd 2023

Effaith y gwrthdaro yn ardaloedd ffindirol Cwrdaidd Twrci fydd canolbwynt ymchwil newydd, yn dilyn dyfarnu cymrodoriaeth uchel ei bri.

Llyfr newydd i nodi canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru

17 Hydref 2023

Bydd cyfrol ddwyieithog yn adrodd stori ryfeddol deiseb heddwch, a lofnodwyd ganrif yn ôl gan 390,296 o fenywod Cymru a’i chludo draw i America, yn cael ei lansio’n swyddogol yng Ngŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar 3 Tachwedd.

Pobl yng Ngholombia yn defnyddio celf i greu heddwch mewn dinas lle bu gwrthdaro

13 Hydref 2023

Bydd tîm sy'n ymroddedig i ddefnyddio celf i fynd i'r afael â thrais a gwrthdaro yn ninas Medellín Colombia yn cyflwyno eu canfyddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 19 Hydref.

Darlith Goffa EH Carr 2023 - 'Thinking with the Enemy'

28 Medi 2023

Bydd ysgolhaig blaenllaw ym maes cysylltiadau rhyngwladol, yr Athro Kimberly Hutchings, yn traddodi Darlith Goffa Flynyddol EH Carr 2023 am 6.30pm ddydd Mawrth 10 Hydref.

Rhyfel Wcráin: pam y gwrthododd y G20 gollfarnu ymddygiad ymosodol Rwsia – a sut y gallai hynny newid

14 Medi 2023

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod datganiad terfynol uwchgynhadledd ddiweddar y G20 a wrthododd gollfarnu ymddygiad ymosodol Rwsia yn Wcráin.

Galw am Luniau o Annibyniaeth gan Ffotograffwyr Ardal Caernarfon

29 Awst 2023

Mae ymchwilwyr yn chwilio am bobl o ardal Caernarfon sy’n mwynhau ffotograffiaeth i dynnu lluniau yn adlewyrchu sut maen nhw’n meddwl ac yn teimlo am annibynniaeth.

Rhyfel Wcráin: pam mae rhyfelwyr Tatar Crimea yn chwarae rhan gynyddol mewn ymwrthedd i feddiannaeth Rwsia.

03 Awst 2023

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Gerald Hughes o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod amlygrwydd cynyddol rhyfelwyr Tatar Crimea ym mrwydr Wcráin yn erbyn meddiannaeth Rwsia.

Yr heriau'n wynebu Rhun ap Iorwerth cyn yr etholiadau nesaf

17 Gorffennaf 2023

Wrth ysgrifennu yn The Conversation, mae Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod rhai o’r tasgau pwysig sydd o’u blaenau i Blaid Cymru ac arweinydd newydd y blaid Rhun ap Iorwerth.

Rhyfel Wcráin: Mae pennaeth Grŵp Wagner ac arlywydd Belarus yn parhau i chwilio am rym

18 Gorffennaf 2023

Yn ei herthygl ddiweddaraf ar y rhyfel yn Wcráin ar gyfer The Conversation, mae Dr Jenny Mathers o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod sut mae pennaeth Grŵp Wagner ac arlywydd Belarus yn parhau gyda'u hymgais i gael grym.

Arweiniodd ymddygiad ymosodol Sofietaidd at sefydlu cynghrair NATO - dyma pam fod hynny'n bwysig nawr

12 Gorffennaf 2023

Wrth i arweinwyr NATO gwrdd i drafod dyfodol Wcrain o fewn y gynghrair, mae Dr Jan Ruzicka a Dr R Gerald Hughes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ysgrifennu yn The Conversation am sut mae'r trafodaethau presennol yn cymharu â dechreuad y sefydliad.

Awyrgludiad Berlin a rhyfel Wcráin: pwysigrwydd symbolau yn ystod gwrthdaro

26 Mehefin 2023

Mewn erthygl ar gyfer The Conversation, mae Dr Jan Ruzicka a Dr R Gerald Hughes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trafod arwyddocâd symbolau mewn gwrthdaro.