Amdanom ni

Croeso i'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, y gyntaf o'i bath yn y byd!

Mae astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig i ddeall ein byd cyfnewidiol sydd ohoni. Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd, chynnwrf gwleidyddol ac ideolegol, trawsnewidiadau cymdeithasol ac ansicrwydd economaidd a mathau newydd o wrthdaro, mae lles pawb ynghlwm â datrys yr heriau byd-eang hyn. Nod addysg ac ymchwil yr Adran yw ysbrydoli a chefnogi myfyrwyr i gwestiynu, herio, trawsnewid a meithrin hyder yn y ffordd y maent yn meddwl am wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

Pam yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol?

Yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol mae gan ein rhaglenni Israddedig dair nodwedd allweddol: rhagoriaeth academaidd, amrywiaeth o ddewis a chymuned go iawn.

Rhagoriaeth:

Rydym yn ymfalchïo mewn addysgu gwych ac yn gyson yn cael sgôr uchel iawn am fodlonrwydd y myfyrwyr, fel y gwelwch o'r tabl isod. Mae ein staff yn darparu modiwlau ar eu meysydd arbenigol, felly maent yn angerddol a gwybodus am yr hyn y maent yn ei ddysgu, a bydd myfyrwyr yn dysgu am y pynciau a'r syniadau diweddaraf. Mae hyn yn gwneud dysgu yn brofiad gwych i fyfyrwyr a darlithwyr fel ei gilydd!

Dewis:

Mae ein modiwlau yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, o Ddiogelwch Rwsiaidd i America Ladin Gyfoes trwy Wleidyddiaeth y DU, Newid Hinsawdd, Cenedlaetholdeb a Rhyfela Modern. Ym mlynyddoedd dau a thri, gall myfyrwyr ddewis o oddeutu 20 opsiwn y flwyddyn, sy’n llawer iawn o ddewis! Mae'r amrywiaeth hon o ddewis yn seiliedig ar fodiwlau craidd cryf sy'n darparu asgwrn cefn o sgiliau a gwybodaeth.  

Cymuned:⁠

Mae gan yr adran gymuned glos ond eangfrydig sy'n gefnogol, yn ysgogol a hwyliog! Rydym yn cynnal digwyddiadau trafod bob semester ac yn gwahodd myfyrwyr i sgyrsiau academaidd, ond rydym hefyd yn cynnal nosweithiau pizza a chwis sy'n dod â staff a myfyrwyr ynghyd, gan gynnwys uwchraddedigion. Mae'r myfyrwyr yn brysur hefyd, gyda'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gemau Argyfwng a Chymdeithas Modelu’r Cenhedloedd Unedig a Grŵp Amrywioldeb Israddedig yr Adran. Rydym hefyd yn cynnig rhaglen gyfnewid a'n Lleoliadau Seneddol a Gemau Argyfwng chwedlonol. Mae gan bawb diwtor personol ac mae mentoriaid myfyrwyr ar gael hefyd.

Ein Sgoriau yn y Tablau Cynghrair Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

  • Ar y brig yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Bodlonrwydd â’r Cwrs (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
  • Ar y brig yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd â’r Dysgu ar gyfer pwnc Gwleidyddiaeth (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
  • 4ydd yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Gwleidyddiaeth (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2023)
  • Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu (Canllaw Prifysgolion Da y Times a'r Sunday Times 2024).
  • Yn y 5 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd gyda'r Dysgu a'r Adborth (Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024)
  • Yn y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr (Complete University Guide 2024)

Pam Aberystwyth?

Mae Aberystwyth yn dref ddwyieithog, eangfrydig a bywiog rhwng bryniau tirion y Canolbarth a glannau prydferth Bae Ceredigion. Byddwch yn rhan o brifysgol gampws sydd â'i chanolfan chwaraeon ei hun a Chanolfan Gelfyddydau brysur; ac fe fyddwch ddrws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU.

Yn ddiweddar cafodd Prifysgol Aberystwyth ei dewis yn Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru, a daeth i’r brig yng Nghymru ac ymhlith y 3 uchaf yn y Deyrnas Unedig am Ansawdd y Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr gan Ganllaw Prifysgolion Da 2024, The Times and Sunday Times. Daethom hefyd i’r brig yng Nghymru a Lloegr am fodlonrwydd y myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.

Ein hanes

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw'r adran gyntaf o'i bath yn y byd ac mae'n hŷn na 100 mlwydd oed erbyn hyn. Fe'i sefydlwyd ym 1919 gyda chymorth rhodd hael o £20,000 gan David Davies, er cof am y myfyrwyr a laddwyd ac a glwyfwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd gan Davies weledigaeth eang i geisio cyfannu’r teulu o genhedloedd ac ail-sefydlu hawliau dynion a gwragedd mewn cymanwlad fawr fyd-eang – Cynghrair y Cenhedloedd. Fel rhan o’r weledigaeth hon, sefydlwyd cadair gyntaf y byd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, wedi’i lleoli yn Aberystwyth, a’i henwi er cof am Woodrow Wilson, arlywydd yr America, y gŵr y mae ei enw bellach yn gyfystyr â chreu Cynghrair y Cenhedloedd er mwyn cynnal cyfiawnder rhyngwladol a chadw heddwch. Credai Davies ei hunan y byddai problem yr ugeinfed ganrif yn cael ei hateb drwy’r ‘ymchwil parhaus am gyfiawnder’, ymchwil fyddai’n sail i ddiogelwch parhaol, ffyniant parhaol a heddwch parhaol.

Y blynyddoedd cynnar

Mae’r byd wrth gwrs wedi newid ers 1919 ac mae’r Adran wedi newid gydag ef, yn ennill enw da ac wynebu dadleuon lu ar hyd y daith. Roedd yr Athro Woodrow Wilson cyntaf, Syr Alfred Zimmern, ymysg y cyntaf o’i genhedlaeth i gydnabod pwysigrwydd cysylltiadau personol a democratiaeth llawr gwlad o fewn cymdeithas sifil fyd-eang, wrth hybu dealltwriaeth ymysg cenhedloedd. Ond cafodd syniadau Zimmern, un o’r realwyr uchaf ei barch yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, eu herio o ddifri gan E H Carr, y pedwerydd a’r enwocaf hyd yma o’r athrawon Woodrow Wilson. Roedd ‘realaeth’ Carr, fel y’i gwelir yn un o lyfrau clasurol y ddisgyblaeth, The Twenty Years’ Crisis, yn ddilornus iawn o iwtopiaeth rhyddfrydol, ac yn pwysleisio gwerth a phwysigrwydd grym, gymaint felly nes i Davies ddifaru weithiau iddo sefydlu’r gadair yn y lle cyntaf.

Cyfnod y Rhyfel Oer

Llwyddodd yr Adran i oroesi siom yr Arglwydd Davies a pharhau i ffynnu yn ystod amgylchiadau gwahanol iawn y Rhyfel Oer rhwng Dwyrain a Gorllewin. Un o gerrig milltir pwysicaf yr Adran oedd dyfarnu’r PhD cyntaf i wraig, Elizabeth Joan Parr, yn 1956, mewn cyfnod pan oedd astudiaethau cysylltiadau rhyngwladol wedi’i ddominyddu bron yn llwyr gan ddynion. Parhaodd i fraenaru’r tir o fewn disgyblaeth oedd yn newid yn gyflym pan apwyntiwyd John Garnett yn 1962 fel darlithydd cyntaf y DG mewn astudiaethau strategaeth, is-faes pwysicaf y ddisgyblaeth yn delio gydag oblygiadau chwyldro niwclear yn y byd. Ac yn 1969, nodwyd pen blwydd yr Adran yn 50 gyda chynhadledd bwysig dros ben, a fynychwyd gan arweinwyr y maes, gan gynnwys Syr Herbert Butterfield, Syr Harry Hinsley, Hans J. Morgenthau, E H Carr, a Charles Manning. Yn dilyn y gynhadledd hon cyhoeddwyd testun clasurol arall, The Aberystwyth Papers.

Diwedd y Rhyfel Oer

Gyda diwedd y Rhyfel Oer daeth newid mawr arall, y tro hwn gyda’r Adran yn flaenllaw mewn trafodaethau ynglŷn ag ymdriniaeth feirniadol o gysylltiadau rhyngwladol a pholisi tramor moesegol. Roedd yr Adran, dan arweiniad Steve Smith, ar flaen y gad o ran datblygu agweddau ôl-bositifaidd tuag at gysylltiadau rhyngwladol, ac o hyn datblygodd y gynhadledd i ddathlu pen blwydd yr adran yn 75 oed a chyhoeddi gwaith pwysig arall: International Theory: Positivism and Beyond. Ken Booth, yr Athro E H Carr cyntaf, a arloesodd ym maes astudiaethau diogelwch beirniadol, gydag ymdriniaeth sy’n cysylltu diogelwch gyda rhyddfreiniad y ddynolryw. Yr un mor bwysig hefyd oedd cyfraniad gwerthfawr yr Adran i’r astudiaeth o hawliau dynol ac ymyrraeth ddyngarol, a daniwyd gan ofynion cynyddol am ymdriniaeth foesegol o bolisi tramor.

Yr Unfed Ganrif ar Hugain

Gyda throad y mileniwm, mae’r Adran yn parhau i ymateb i fyd sy’n newid mor gyflym mewn modd sy’n torri’r mowld traddodiadol. Adeiladodd yr Adran ar ei enw da fel canolfan rhagoriaeth ymchwiliadau damcaniaethol o gysylltiadau rhyngwladol gyda chyfraniadau nodedig ym meysydd Damcaniaeth Feirniadol, yr Ysgol Seisnig/cymdeithas ryngwladol, ôl-strwythuraeth, cymdeithaseg hanesyddol, ac ymdriniaethau normadol o gysylltiadau rhyngwladol. Yr Adran hon a apwyntiodd ddarlithydd cyntaf y DG ym maes astudiaethau cudd-wybodaeth, gan fynd ymlaen i sefydlu Canolfan Cudd-wybodaeth ac Astudiaethau Diogelwch Rhyngwladol lwyddiannus. Mae Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru wedi llywio’r ddadl gyhoeddus yng Nghymru wedi datganoli. Lansiwyd canolfan newydd i astudio terfysgaeth er mwyn archwilio’r berthynas hanfodol rhwng radicaleiddio gwleidyddol a thrais. Ac yn 2007, sefydlwyd Cadair gyntaf UNESCO yng Nghymru er mwyn astudio iechyd byd-eang, yn enwedig HIV/AIDS, a pholisi tramor a diogelwch.

Yn 2002,  atgyfnerthwyd etifeddiaeth Davies wrth i Sefydliad Coffa David Davies gael ei symud o Lundain i Aberystwyth. Daeth y Sefydliad hwn bellach yn un o ganolfannau ymchwil pwysig yr Adran yn cael ei arwain gan gyfnodolyn y Sefydliad, International Relations, un o nifer o gyfnodolion sy’n cael eu golygu yn yr Adran.

Dathlu ein Can Mlwyddiant

Yn 2019, bu dathliad o gan mlwyddiant yr Adran - can mlynedd o Wleidyddiaeth Ryngwladol! Roedd hyn yn gyfle i ddathlu ein gwaddol arbennig yn ogystal ag ailddyfeisio'r Adran ar gyfer y byd cyfoes ac i'r dyfodol. Bu hefyd yn gyfle i ddathlu nid yn unig yr Adran ym Mhrifysgol Aberystwyth ond hefyd y gymdeithas ryfeddol o fyfyrwyr a staff a fu yn ein mysg yn Aberystwyth, ac sydd erbyn hyn yn rhan o'r rhwydwaith fyd-eang o alumni sy'n rhan o draddodiad yr Adran.

Yn ysbryd yr etifeddiaeth hon y mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn parhau i wthio ffiniau’r ddisgyblaeth drwy osod cwestiynau anodd sy’n diffinio problemau’r unfed ganrif ar hugain. Ond trwy’r cyfan i gyd, mae’r Adran yn parhau’n driw i’r delfrydau oedd yn sail i’w sefydlu: sef yr ymchwil parhaus am drefn fyd-eang fwy diogel a mwy cyfiawn.

Canfod mwy am ddathlu'r Can Mlwyddiant