Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg

Darlithydd yn annerch myfyrwyr
Rydym yn cynnig cynllun gradd cyfrwng-Cymraeg yn benodol yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, sef Cysylltiadau Rhyngwladol 552L. Yn ogystal, mae'n bosib astudio modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg ar unrhyw un arall o'n cynlluniau gradd.

 

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfle i chi astudio o leiaf 80 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ymarferol, golyga hyn y gellir astudio pedwar o'r chwech modiwl y disgwylir i chi eu cyflawni bob blwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Adran hefyd yn sicrhau bod tiwtor personol a thiwtor traethawd hir sy'n medru'r Gymraeg ar gael i'r holl fyfyrwyr cyfrwng-Cymraeg.

Mae croeso i chi ddewis fersiynau Cymraeg y modiwlau bob tro os ydych yn dymuno gwneud hynny. Neu gallwch fod yn hyblyg ac amrwyio cyfrwng yr astudio fesul modiwl. Ceir hefyd hyblygrwydd o ran yr iaith a ddefnyddir wrth gwblhau gwaith a asesir. Cewch gyflwyno'r gwaith yn Gymraeg neu Saesneg beth bynnag yw iaith addysgu'r modiwl. Golyga hyn fod y ddarpariaeth cyfrwng-Cymraeg ar gael i fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd iaith Gymraeg.

Mae nifer o'n cynlluniau gradd yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau israddedig y Coleg. Ceir dau wahanol fath o ysgoloriaeth: y Prif Ysgoloriaeth sy'n agored i fyfyrwyr sy'n ymrwymo i astudio o leiaf 80 credyd (hy 4 modiwl) drwy gyfrwng y Gymraeg bob blwyddyn, tra mae'r Ysgoloriaethau Cymhelliant yn agored i fyfyrwyr sy'n ymrwymo i astudio o leiaf 40 credyd (hy 2 fodiwl) drwy gyfrwng y Gymraeg bob blwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgoloriaethau hyn ac am restr o'r cynlluniau gradd sy'n gymwys, gweler wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dewch i gyfarfod y tîm

 

Catrin Wyn Edwards
Ymunodd Catrin â’r Adran Gweidyddiaeth Ryngwladol yn 2015, a hynny’n wreiddiol fel darlithydd cyfrwng-Cymraeg gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae ganddi hi ddiddordebau ymchwil ac addysgu ym meysydd polisi iaith a mewnfudo, amlddiwylliannedd, cenedlaetholdeb, dinasyddiaeth a phleidiau îs-wladwriaethol.

Anwen Elias
Ymunodd Anwen â'r Adran Gweidyddiaeth Ryngwladol ym mis Chwefror 2005. Mae ei gwaith ymchwil a dysgu yn cwmpasu rhanbartholdeb cymharol, cenedlaetholdeb, pleidiau gwleidyddol a systemau pleidiol, a mudiadau o blaid annibyniaeth.

Huw Lewis
Ymunodd Huw â'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn aelod staff ym mis Medi 2009. Cyn hynny bu'n astudio yn yr adran fel myfyriwr israddedig ac uwchraddedig. Roedd ei ymchwil doethurol yn canolbwyntio ar ddimensiwn normadol yr ymdrechion i adfywio ieithoedd lleiafrifol.

Elin Royles
Ymunodd Elin â'r Adran fel aelod o staff yn 2003. Mae ei diddordebau ymchwil ac addysgu yn ymwneud â gwleidyddiaeth diriogaethol a gwleidyddiaeth wedi datganoli yn y DU, diplomyddiaeth is-wladwriaethol a chodi cenedl, polisïau newid hinsawdd a datblygu cynaliadwy is-wladwriaethau, cymdeithas sifil, a pholisi a chynllunio iaith.

Lucy Taylor
Mae Lucy yn astudio America Ladin (gan arbenigo ar yr Ariannin) ac yn ymchwilio i goloneiddio a dinasyddiaeth ym Mhatagonia'r Cymry. Mae hi'n weithgar iawn ym maes astudiaethau Lladin-Americanaidd yn y Deyrnas Unedig. Tan yn ddiweddar, roedd Lucy'n gyd-olygydd y Bwletin Ymchwil Lladin-Americanaidd, yn aelod o banel Lladin-Americanaidd a Charibïaidd yr Academi Brydeinig, ac yn Lywydd y Gymdeithas Astudiaethau Lladin-Americanaidd (2011-13), y gymdeithas academaidd fwyaf yn Ewrop i arbenigwyr yn y maes. 

Ein cyn-fyfyrwyr

Does dim dwywaith i’r sgiliau a’r profiadau enillais drwy astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth fod o fudd sylweddol wrth ddatblygu fy nghymeriad a chyfleoedd gyrfa. Roedd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hwb enfawr - gan fy ngalluogi i fagu perthynas agos a chyfeillgar gyda’r staff a chyd-fyfyrwyr.

Yn ogystal â’r addysg academaidd heb ei ail, llwyddais hefyd i elwa ar nifer o brofiadau buddiol, gan gynnwys Gemau Argyfwng enwog yr Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol, yn ogystal â chyfnodau o brofiad gwaith gyda busnesau lleol a gwleidyddion amrywiol - a helpodd fireinio sgiliau sydd bellach yn ddefnyddiol yn fy ngwaith bob dydd. Elwais yn fawr hefyd o’r gymdeithas Gymraeg agos a bywiog yn y brifysgol a’r dref, a’r cyfleoedd niferus sy’n deillio o UMCA a chymdeithasau tebyg.

Aled Morgan Hughes

 

 

Adnoddau i ysgolion a cholegau

Rydyn ni wrth ein boddau yn cydweithio â Chymry ifanc.

Fel Adran, rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r gwaith pwysig sy’n digwydd yn yr ysgolion yn ennyn diddordeb ein darpar fyfyrwyr at wleidyddiaeth gyfoes. Y genhedlaeth ifanc yw’r dyfodol, ac mae digonedd o faterion pwysig i’w trafod ar hyn o bryd o ran yr heriau sy’n wynebu’r byd heddiw, megis globaleiddio, yr hinsawdd a’r amgylchedd, anghydraddoldeb ac iechyd byd-eang. Mae gallu’r ifanc i ddod yn rhan o’r trafodaethau hyn yn hollbwysig a byddem ni wrth ein boddau yn cael y cyfle i sgwrsio â nhw am y pethau hyn.

Rydym felly yn awyddus i gefnogi staff a disgyblion ysgolion Cymru drwy ddarparu ymweliadau ysgol, diwrnodau ar y campws ac adnoddau i gyfoethogi cwricwlwm ein hysgolion.

Porwch drwy'r adnoddau!