Cyfleoedd Byd-eang

Harbwr Hong Kong gyda'r nos

Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau.

Gall astudio yn un o'n prifysgolion partner gynnig persbectif newydd i chi ar eich pwnc a'r cyfle i ddyfnhau ac ategu'ch astudiaethau yn Aberystwyth. Yn ogystal â hynny, gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol.

Yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, rydym yn annog myfyrwyr i ystyried gwneud cais i astudio dramor gyda phrifysgol dethol am un semester neu flwyddyn gyfan.

At hynny, oherwydd ein bod yn credu bod hyn mor ddefnyddiol i fyfyrwyr sy'n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol, mae hi nawr yn bosibl i ymgorffori blwyddyn yn astudio dramor yn y radd BA Cysylltiadau Rhyngwladol. Bydd y credydau am y modiwlau a astudir yn y brifysgol gyfnewid yn cyfrif tuag at eich gradd.

Canfod ble gallwch chi fynd yn fyfyriwr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol