Ymgysylltu ag Ysgolion a Cholegau
-(1).jpg)
Yma yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, rydym wedi ymrwymo i gynnig rhaglenni penodol sy'n atgyfnerthu'r cwricwlwm i ysgolion a cholegau ar draws Cymru a’r DU.
Mae ein staff hefyd yn hapus iawn i ymweld ag ysgolion a cholegau i roi sgyrsiau ynghylch astudio gwleidyddiaeth yn y Brifysgol, cyflwyno darlithoedd sampl ar agweddau o'r cwricwlwm Safon Uwch, cynnal sesiynau ar Fagloriaeth Cymru, rhedeg gemau argyfwng un-diwrnod, ac arwain amrywiaeth o weithdai rhyngweithiol ar faterion gwleidyddol domestig a rhyngwladol. Rydym hefyd yn mynychu ffeiriau UCAS a ffeiriau addysg gyda thîm Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad y Brifysgol.
Rydyn ni wrth ein boddau yn gweithio gyda phobl ifanc. Rydym yn ategu'r hyn y mae ysgolion a cholegau yn ei ddysgu ym meysydd gwleidyddiaeth, llywodraeth, a chysylltiadau rhyngwladol, ac yn hapus iawn i gynnig blas ar y cyrsiau rydym yn eu cynnig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â phennaeth tîm Mynediad a Chysylltu ag Ysgolion ein hadran ni, sef Alistair Shepherd.