Beth yw Gwleidyddiaeth Ryngwladol?

 

  • Mae deall ac esbonio heriau byd-eang a datblygu syniadau am newidiadau ar y lefel ryngwladol, gwladwriaethol ac is-wladwriaethol yn ganolog i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ei hanfod yn bwnc rhyngddisgyblaethol sydd yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys: gwleidyddiaeth, hanes, economeg, athroniaeth, y gyfraith a chymdeithaseg.
  • Mae'r astudiaeth o Wleidyddiaeth Ryngwladol yn cwmpasu'r byd o'n cwmpas, yr heriau a brwydrau rydym yn eu hwynebu, y cyfleon a’r rhwystrau sy’n codi o berthnasau rhwng pobl, cymdeithasau, gwladwriaethau a sefydliadau
  • Yn ganolog i wleidyddiaeth yngwladol mae sut yr ydym yn meddwl am y byd o'n cwmpas, ac felly, sut yr ydym yn ymateb i heriau ac yn gwireddu cyfleon sy’n codi.
  • Golyga astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol roi sylw i syniadau, arferion, hanesion, pobl a llefydd.
  • Mae Gwleidyddiaeth Rhyngwladol yn ymhel â natur gynyddol gymhleth a rhyng-gysylltiedig problemau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol, ryngwladol, a byd-eang.
  • Mae Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gofyn rhoi sylw i’r amrywiaeth o actorion sy'n effeithio ar y byd, gan gynnwys gwladwriaethau, sefydliadau rhyngwladol ffurfiol ac anffurfiol fel yr IMF a'r G20, sefydliadau anllywodraethol fel Amnest Rhyngwladol, actorion an-wladwriaethol fel terfysgwyr, yn ogystal â chorfforaethau amlwladol neu biliwnydd dylanwadol fel Bill Gates.
  • Mae myfyrwyr Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi dilyn gyrfaoedd mewn meysydd amrywiol gan gynnwys: y gwasanaeth sifil, newyddiaduraeth, ymchwil cymdeithasol a gwleidyddol, mudiadau anllywodraethol, gwleidyddiaeth bleidiol, addysgu, y gyfraith, sefydliadau rhyngwladol, lluoedd diogelwch, a llawer mwy.