Cyfleoedd allgyrsiol

Bydd digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

O'r Gemau Argyfwng enwog a'r Cynllun Lleoliadau Seneddol i sgyrsiau ac amrywiaeth o gymdeithasau i fyfyrwyr, bydd digon o bethau i'ch cadw'n brysur yn ystod eich cyfnod yn Aberystwyth. Bydd y pethau hyn yn gyfle i ddatblygu sgiliau ychwanegol a fydd yn edrych yn dda ar eich CV hefyd.

Sgyrsiau

Mae ein hadran yn cynnig amgylchedd fywiog i astudio ac archwilio syniadau newydd. Bob blwyddyn rydym yn cynnal dwsinau o sgyrsiau gan arbenigwyr a ffurfwyr barn sy'n arwain yn y byd. Mae trigolion y gymuned leol yn mynychu rhain yn rheolaidd, yn ogystal â myfyrwyr a staff y brifysgol.

Gemau Argyfwng

Hon oedd yr adran gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnal efelychiadau argyfwng er mwyn cysylltu'r hyn a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth â chymhlethdodau go iawn gwleidyddiaeth ryngwladol. Caiff y Gemau Argyfwng eu cynnal unwaith y flwyddyn, a'r digwyddiad hwn yw'r mwyaf poblogaidd ym mlwyddyn academaidd pob myfyriwr yr adran.

Cynllun Lleoliadau Seneddol

Rydym yn gweithredu Cynllun Lleoliadau Seneddol nodedig sy'n gyfle i chi ennill profiad gwerthfawr yn gweithio ar y cyd ag aelod seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o 4 i 6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn ysgrifennu adroddiadau ac areithiau, yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn ymwneud â'r etholaeth.

Cymdeithasau Myfyrwyr

Mae myfyrwyr yn cymryd yr awenau yn yr Adran hefyd. Mae'r Adran yn gartref i Interstate - y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf yn y Deyrnas Unedig sydd o dan ofal myfyrwyr - a chyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (sy'n hynod fanteisiol os ydych yn dymuno mynd ymlaen i astudio ar lefel uwchraddedig) neu ennill profiad gwerthfawr yn rhan o'r tîm golygyddol. Yn olaf, ceir ystod o gymdeithasau myfyrwyr sy'n ysgogi ac yn meithrin ymdeimlad cryf â chymuned yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â nifer o weithgareddau cymdeithasol megis y ddawns flynyddol.

Y Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Mae'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol, InterPol, yn cael ei redeg gan fyfyrwyr ac yn gymdeithas sy'n trefnu amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol neu sydd â diddordeb yn y pwnc. Pwrpas y Gymdeithas yw archwilio gwahanol faterion gwleidyddol o safbwynt myfyrwyr. Mae'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn trefnu dadleuon, yn croesawu siaradwyr gwadd, ac yn trefnu cynadleddau a gweithdai. Er enghraifft, bu sgwrs lwyddiannus iawn gan Mark Williams, Aelod Seneddol Ceredigion ar y pryd, ar ddechrau rhaglen 2009.

Mae'r Gymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn cynnig elfen gymdeithasol bwysig. Mae'n cynnal cyfres o sgyrsiau anffurfiol mewn tafarndai a chaffis lleol. At hynny, un o uchafbwyntiau blynyddol yr Adran yw'r Ddawns Gwleidyddiaeth Ryngwladol flynyddol a drefnir gan y Gymdeithas.

Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig

Mae Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig yn ceisio meithrin ymwybyddiaeth o sefydliad y Cenhedloedd Unedig ynghyd â gweithgareddau cysylltiedig a materion byd-eang. Mae'n rhedeg digwyddiadau efelychu lle mae myfyrwyr sy'n cynrychioli gwahanol wladwriaethau yn dadlau ar faterion byd-eang cyfoes, fel y byddai'n digwydd yn y Cynulliad Cyffredinol neu'r Cyngor Diogelwch. Mae aelodau Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig hefyd yn cymryd rhan yn nigwyddiadau modelu'r Cenhedloedd Unedig yn Rhydychain, Caergrawnt, a Llundain. Cysylltwch â Chymdeithas Cenhedloedd Unedig Aberystwyth i gael rhagor o wybodaeth. Mae aelodau Aberystwyth yn gymwys i wneud cais i astudio neu fynd ar ymweliadau ac i gymryd rhan mewn cyrsiau cadw'r heddwch a drefnir gan y Cenhedloedd Unedig.

Cymdeithas Gemau Argyfwng a 'Model UN' Aberystwyth

Mae'r Gymdeithas Gemau Argyfwng a sefydlwyd ym mis Ionawr 2013 yn cael ei hysbrydoli gan y Gemau Argyfwng hynod boblogaidd sy'n rhan o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Cynhelir tua saith gêm y flwyddyn, gan roi cyfle i 20-30 o bobl bob tro, er y bydd safle yn cael ei ffeindio i unrhyw un sy'n dod i'r gêm heb roi gwybod i ni o flaen llaw.

Cymdeithas Amnest Rhyngwladol Aberystwyth

Mae Cymdeithas Amnest Rhyngwladol Aberystwyth yn ceisio codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol a'u hyrwyddo drwy ystod o ddigwyddiadau a sgyrsiau diddorol.