Arddangosfa ffotograffiaeth arloesol i ddarlunio dyfodol Cymru, yr Alban a Chatalwnia
'Port Talbot' gan David Mayne
07 Chwefror 2024
Mae academyddion Prifysgol Aberystwyth yn curadu arddangosfa ffotograffiaeth sy'n edrych ar agweddau tuag at annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia.
Bydd ‘Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio’r Dyfodol: Ffotograffiaeth o Gymru, yr Alban a Chatalwnia’ yn arddangos 46 o ffotograffau gan 35 o ffotograffwyr o’r tair cenedl. Bydd yn cael ei gynnal yn Oriel Carn Caernarfon rhwng 10-17 Chwefror.
Bydd yr arddangosfa yn cynnig cipolwg i ymwelwyr ar sut y gall profiadau bywyd pobl effeithio ar y ffordd maent yn meddwl ac yn teimlo am ddyfodol eu gwlad. Mae’r arddangosfa hefyd yn casglu teimladau a meddyliau ymwelwyr wrth ofyn y cwestiwn: ‘Beth sy’n bwysig i chi am ddyfodol Cymru?’
Wedi’i threfnu gan Dr Elin Royles a Dr Anwen Elias o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac yn rhan o’u hastudiaeth academaidd ar y teimladau a’r profiadau sy’n llunio safbwyntiau pobl ar annibyniaeth.
Dywedodd Dr Elin Royles:
“Elfen hanfodol o’n hymchwil yw’r arddangosfa hon, sy’n cyfleu emosiynau a theimladau pobl. Rydyn ni eisiau deall yn well y ffordd mae pobl o gefndiroedd gwahanol, o wahanol genhedloedd, yn meddwl ac yn teimlo am eu dyfodol gwahanol, a pha brofiadau sydd yn dylanwadu ar eu barn.
“Yn hynny o beth, mae'r ffotograffau yma’n cynnig ymateb trawiadol i bwnc annibyniaeth. Trwy gapsiynau sy'n cyd-fynd â'r ffotograffau, gall ymwelwyr asesu i ba raddau mae eu hargraffiadau nhw o’r delweddau yn cyfateb â’r hyn oedd y ffotograffwyr yn ceisio'i gyfleu. Byddwn yn rhannu canfyddiadau’r ymchwil yng Nghaerdydd fis Mai.”
Bydd y dull newydd yma a fydd yn herio dibyniaeth gonfensiynol academyddion ar ymatebion arolygon a data demograffig, fel oedran, rhyw neu ddosbarth, wrth archwilio agweddau at annibyniaeth.
Yn ôl Dr Anwen Elias, aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru:
“Mae ffotograffiaeth yn arf pwerus i ddarparu dealltwriaeth fwy cyflawn o’r hyn sy’n digwydd, ac i helpu i benderfynu i ba raddau mae emosiwn yn dylanwadu ar safbwyntiau pobl ar faterion fel annibyniaeth. Rwyf yn sicr wedi cael fy mherswadio gan y fethodoleg newydd hon, sydd yn fy marn i â rôl bwysig i’w chwarae wrth barhau â’r sgwrs am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.”
Cyn derbyniad swyddogol yr arddangosfa ar 15 Chwefror, dywedodd y gwestai arbennig Siân Gwenllïan (AS Arfon):
“Mae’r arddangosfa ffotograffiaeth gyffrous hon yn Oriel CARN, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth, yn agoriad llygad go iawn. Rydw i wedi cael fy nharo’n arbennig gan y ffaith bod tensiwn yn aml iawn rhwng y pen a’r galon. Beth bynnag fo’ch barn wleidyddol, mae hyn yn cyfrannu haen newydd o ddealltwriaeth i’r trafodaethau parhaus am ddyfodol cyfansoddiadol yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia.”
Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan ffotograffwyr o Glwb Camera Aberystwyth; Oriel y Gweithwyr yn Ynyshir, y Rhondda; Foto-Cine Mataró d’UEC (Clwb Camera Mataró); ac IEFC: Institut d’Estudis Fotogràfics de Catalunya (Sefydliad Astudiaethau Ffotograffig Catalonia).
Mae dau o luniau’r ffotograffydd o ogledd Cymru, Richard Jones, yn yr arddangosfa:
“Mae fy ffotograffau ‘Dolbadarn yn deffro’ ac ‘Annibyniaeth Barn’ yn mynegi’r math o wawr newydd y credaf y gall annibyniaeth ddod i Gymru. Gan nad yw’r arddangosfa ei hun yn hyrwyddo safbwynt arbennig ar annibyniaeth, mae wedi bod yn ddadlennol gweld fy ffotograffau ochr yn ochr â gwaith ffotograffwyr ar ddwy ochr y ddadl.”
'Dragon in a cage' gan Lonnie Morris
Dywedodd Menna Thomas, Cydlynydd CARN:
“Rydym yn falch iawn o fod yn lleoliad ar gyfer yr arddangosfa arloesol hon, sy’n ysgogi’r meddwl, yn Oriel CARN, yng Nghaernarfon. Byddem yn annog y cyhoedd yn fawr iawn i ddod draw i archwilio’r casgliad hynod ddiddorol hwn o dros 40 o ffotograffau a chyfrannu at brosiect Prifysgol Aberystwyth os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.”
Mae'r arddangosfa yn rhan o brosiect wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru), fel rhan o Ganolfan Ymchwil Chymdeithas Sifil WISERD/ESRC.
ARDDANGOSFA
- Pen Rheswm/Gwrando’r Galon: Darlunio’r Dyfodol
- Oriel CARN, Caernarfon
- 10-17 Chwefror 2024; 10am-3pm (ag eithrio dydd Sul)
- Mynediad: Am ddim (gweithgareddau i’r holl deulu ar gael)