Llyfr newydd i nodi canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru
Cafodd tudalennau’r ddeiseb hanesyddol a’r gist dderw eu dychwelyd o’r Unol Daleithiau i’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gynharach eleni i nodi’r canmlwyddiant.
17 Hydref 2023
Bydd cyfrol ddwyieithog yn adrodd stori ryfeddol deiseb heddwch, a lofnodwyd ganrif yn ôl gan 390,296 o fenywod Cymru a’i chludo draw i America, yn cael ei lansio’n swyddogol yng Ngŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar 3 Tachwedd.
Cyd-olygwyd Yr Apêl: Hanes Rhyfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 (Y Lolfa) gan yr Athro Mererid Hopwood a Dr Jenny Mathers o Brifysgol Aberystwyth, ac mae’n olrhain hanes coll y ddeiseb ar draws cyfres o saith pennod ac un gerdd, pob un wedi’i llunio gan gyfrannydd gwahanol.
Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys detholiad o ddelweddau trawiadol, yn eu plith ffotograffau du a gwyn o’r menywod aeth i’r afael â’r dasg enfawr o drefnu’r ddeiseb a sicrhau bod llofnodion yn cael eu casglu o ddrws i ddrws mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Dyma’r tro cyntaf erioed i’r stori wir hon gael ei hadrodd ar ffurf cyfrol ac mae ei chyhoeddi eleni yn cyd-fynd â chanmlwyddiant y ddeiseb 7-milltir o hyd, a gyflwynwyd i fenywod yr Unol Daleithiau yn ogystal â’r Arlywydd yn y Tŷ Gwyn.
Dywedodd y golygyddion yr Athro Mererid Hopwood a Dr Jenny Mathers o Brifysgol Aberystwyth:
“Ein gobaith ni yw y bydd darllen yr hanes yn ein hysbrydoli i barhau i weithredu yn ysbryd y menywod o Gymru a ddychmygodd, trefnu a llofnodi’r Apêl. Cyflwynai’r ddogfen weledigaeth fawr i’w holl ddarllenwyr. Deil y weledigaeth honno’r un mor fawr a’r un mor ddilys heddiw.”
Bydd y ddau olygydd a rhai o gyfranwyr y gyfrol, gan gynnwys Meg Elis, Catrin Stevens a Sian Rhiannon Williams, yn siarad yn y lansiad a gynhelir yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth am 5yh ar ddydd Gwener 3 Tachwedd 2023.
Mae mynediad i’r lansiad am ddim ac mae croeso i bawb ond mae nifer cyfyngedig o seddi felly mae cadw lle ymlaen llaw ar Eventbrite yn hanfodol.
Cynhelir lansiad y gyfrol fel rhan o Ŵyl Ymchwil y Brifysgol – Hawlio Heddwch rhwng 1 a 7 Tachwedd. Mae’r ŵyl am ddim ac mae croeso i bawb.
Ysbrydolwyd clawr y gyfrol gan ddyluniad rhwymiad lledr yr apêl ysgrifenedig, dwy dudalen o hyd, a aeth draw i America gyda thudalennau’r ddeiseb yn 1924.