Arddangosfa ‘Creu Man Diogelach’ yn Aberystwyth
Tecstil a grëwyd ar y cyd gan aelodau cymuned pentref Villeta Florida yng Ngholombia
01 Mawrth 2024
Mae arddangosfa sy'n edrych ar rym gweithredu heb arfau gan sifiliaid mewn ardaloedd o wrthdaro treisgar yn cael ei harddangos yn Aberystwyth.
Trwy wrthrychau, delweddau, a lleisiau, mae 'Creu Man Diogelach' yn cyfleu profiadau sifiliaid sy'n harneisio grym dulliau di-drais i amddiffyn eu hunain rhag niwed rhyfel, creu mannau diogelach a gweithio tuag at bresennol a dyfodol amgen.
Mae’r arddangosfa’n ymdrin â phrofiadau o amddiffyn sifiliaid diarfog yng Nghamerŵn, Colombia, Indonesia, Kenya, Myanmar, Nigeria, Palestina, Ynysoedd y Philipinau, De Swdan, a Gwlad Thai.
Daw eitemau’r arddangosfa o brosiectau ymchwil sy'n ymdrin â sut mae amddiffyn sifiliaid heb drais yn gweithio, a sut y gall helpu i sicrhau heddwch parhaol a chynaliadwy.
Mae 26 o'r prosiectau hyn wedi cael eu cefnogi gan y Rhwydwaith Creu Man Diogelach -cydweithrediad rhwng academyddion, cymunedau a sefydliadau mewn rhanbarthau y mae gwrthdaro yn effeithio arnynt, a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth.
Yn ôl Berit Bliesemann de Guevara, Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrif Ymchwilydd y rhwydwaith Creu Man Diogelach:
"Mae amddiffyn sifiliaid rhag niwed rhyfel, trais ac erledigaeth ymhlith materion pwysicaf ein hoes. Mae’r arddangosfa hon yn dangos sut mae pobl gyffredin yn meddwl am amddiffyniad ac yn ei ymarfer heb ddefnyddio arfau. Mae'n ystyried natur rymus a thrawsnewidiol dulliau di-drais wrth amddiffyn sifiliaid sy'n byw yng nghanol trais, yn ogystal â’i gyfyngiadau.
"Mae’r arddangosfa Creu Man Diogelach yn herio ei ymwelwyr i ailystyried credoau cyffredin am fregusrwydd, galluedd, a dewisiadau mewn rhyfel. Mae’n ein gwahodd i ddychmygu posibiliadau ar gyfer amddiffyn sifiliaid yn wahanol ac i fyfyrio ar ein rhagfarnau a’n syniadau ein hunain o ran pwy all amddiffyn a sut i wneud hynny. Ac mae'n ein hysbrydoli i weithredu a chyfrannu at y newid hwn.”
Bydd yr arddangosfa i'w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth rhwng 11–28 Mawrth 2024.
Mae'r arddangosfa yn cyd-fynd â Gŵyl Ffilm Cymru a'r Byd yn Un 2024, a fydd hefyd yn cael ei dangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Yn rhan o'r Ŵyl, dangosir saith ffilm fer a grëwyd gyda chefnogaeth y Rhwydwaith Creu Man Diogelach, yn ymdrin â phynciau megis deinameg cymhleth cysylltiadau hydro-gymdeithasol yng Ngholombia, a’r rhan a chwaraeir gan fenywod brodorol yng nghyswllt hunan-amddiffyn. Am ragor o wybodaeth ac amseroedd dangos y ffilmiau, gweler: https://www.wowfilmfestival.com/creatingsaferspace.
Ariennir y Rhwydwaith Creu Man Diogelach gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) trwy'r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang.