Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y gwrthdaro yn ardaloedd ffindirol Cwrdaidd
Dr Dilan Okcuoglu
08 Tachwedd 2023
Effaith y gwrthdaro yn ardaloedd ffindirol Cwrdaidd Twrci fydd canolbwynt ymchwil newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dilyn dyfarnu cymrodoriaeth uchel ei bri.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Dr Dilan Okcuoglu yn astudio’r thema o adeiladu a rheoli'r wladwriaeth yn rhanbarth de-ddwyrain talaith Twrci a rwygwyd gan ryfel.
Mae ymchwil Dr Okcuoglu, a gynhelir gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth, yn rhan o’r cynllun Cymrodoriaethau Ôl-ddoethurol Marie Skłodowska-Curie Actions, sy’n cael ei ariannu drwy gyllid gwarantedig y Deyrnas Gyfunol ar gyfer Horizon Europe.
Wrth siarad am ei phrosiect, dywedodd Dr Okcuoglu:
"Mae fy ymchwil yn edrych ar brofiadau byw bob dydd pobl yn ardaloedd anghysbell a mynyddig y ffindiroedd Cwrdaidd yn Nhrwrci, lle mae’r ymdeimlad cyson o fygythiad wedi treiddio drwy fywyd bob dydd o ganlyniad i ddegawdau o wrthdaro rhwng llywodraeth Twrci a’r gwrthryfelwyr Cwrdaidd.”
"Trwy gasglu a dadansoddi naratifau a gafwyd trwy gyfweliadau ansoddol â phentrefwyr, pobl sydd wedi'u dadleoli o fewn y wlad, gweithredwyr, cyfreithwyr a swyddogion y wladwriaeth yn ardaloedd gororau Cwrdaidd Twrci sy’n ffinio ag Irac, Iran a Syria, rwy'n gobeithio dyfnhau ein dealltwriaeth o'r mecanweithiau ffurfiol ac anffurfiol cymhleth a ddefnyddir gan y wladwriaeth i reoli pobl a thiriogaethau yn y rhanbarthau dadleuol hyn."
"Bydd fy ymchwil yn taflu goleuni ar sut mae awdurdod a dilysrwydd gwladwriaeth Twrci yn ei ffindiroedd yn cael ei ffurfio gan y berthynas gymhleth rhwng mesurau rheoli tiriogaethol, y cystadlu rhwng gwahanol grwpiau am yr hawl i awdurdod, a phrofiadau pobl o ddydd i ddydd. Rwyf hefyd yn bwriadu mapio deinameg rhywedd y berthynas rhwng y wladwriaeth, y bobl a’r tir, gan lenwi bwlch pwysig yn y testunau presennol."
Bydd canlyniad ymchwil Dr Okcuoglu o ddiddordeb i lunwyr polisi, ysgolheigion ac ymarferwyr sy’n ymroddedig i astudiaethau heddwch a gwrthdaro.
Yn ystod dwy flynedd ei Chymrodoriaeth, bydd Dr Okcuoglu yn gweithio dan fentoriaeth Berit Bliesemann de Guevara, Athro Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Caiff Okcuoglu secondiad gyda’r Ganolfan Ddiogelwch(Anniogelwch) Byd-eang a'r Ganolfan ar gyfer Damcaniaethau Cysylltiadau Rhyngwladol Uwch ym Mhrifysgol Sussex yn ogystal.
Dr Dilan Okcuoglu
Mae gan Dr Dilan Okcuoglu gefndir rhyngddisgyblaethol mewn gwleidyddiaeth, economeg ac athroniaeth. Derbyniodd ei PhD a'i MA mewn astudiaethau gwleidyddol o Brifysgol y Frenhines yng Nghanada. Mae ganddi hefyd radd MA arall o Brifysgol Canol Ewrop, a gradd israddedig mewn economeg o Brifysgol Bogazici.
Ar hyn o bryd mae'n gymrawd gwadd dibreswyl yng Nghanolfan y Dwyrain Canol ac Americanwyr o’r Dwyrain Canol ym Mhrifysgol Dinas Efrog Newydd. Mae hi hefyd yn ymgynghorydd prosiect ar gyfer y Cyngor ar Risgiau Strategol yn Washington, DC.
Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth fel cymrawd ôl-ddoethurol, bu'n gymrawd ôl-ddoethurol mewn Astudiaethau Cwrdaidd Byd-eang yn yr Ysgol Gwasanaeth Rhyngwladol, Prifysgol America yn Washington, DC (2019-22) ac yn ysgolhaig gwadd ym Mhrifysgol Cornell, Canolfan Astudiaethau Rhyngwladol M. Einaudi (2019). Yn hanner cyntaf 2023, mae hi hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd prosiect i’r Ganolfan Hinsawdd a Diogelwch, un o athrofeydd y Cyngor ar Risgiau Strategol ar faterion newid yn yr hinsawdd, diogelwch a gwrthdaro yn y Dwyrain Canol (gweler: https://storymaps.arcgis.com/stories/5ee50271b81644419c7cd5902300ed8c)
Mae hi hefyd wedi bod yn gysylltiedig â'r Ganolfan Ymchwil Ryngddisgyblaethol ar Ddemocratiaeth ac Amrywioldeb ym Mhrifysgol Québec, Montréal ers 2018.
Mae ei diddordebau addysgu ac ymchwil yn bennaf yng ngwleidyddiaeth rhanbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, astudiaethau gwrthdaro a heddwch, dulliau ymchwil ansoddol, gwleidyddiaeth diriogaethol a ffiniau cymharol, democrateiddio, cyfiawnder byd-eang, gwleidyddiaeth ethnig a chenedlaetholdeb, yn ogystal â chysylltiadau rhwng y wladwriaeth a’r lleiafrifoedd mewn ardaloedd o wrthdaro.
Mae Okcuoglu's wedi cyhoeddi erthyglau a phenodau llyfrau yn yr Oxford Handbook of Turkish Politics, Democratic Representation in Plurinational States: The Kurds in Turkey (rhan o'r gyfres lyfrau Comparative Territorial Politics); dofennau briffio ar bolisiau ar ddiogelwch a gwrthdaro yn y cyfnodolyn Journal of Middle Eastern Politics and Policy a Peace Insight; yn ogystal ac ysgrifennu darn barn yn The Conversation, Jerusalem Post, Daily News a National Post. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar erthyglau a chynllun llyfr ar y testun o reolaeth anffurfiol, gan gyflwyno sgyrsiau ar ei gwaith.
(Gweler hefyd: www.dilanokcuoglu.net).