Cipolwg cyntaf ar Ysgol Filfeddygaeth newydd sbon Cymru

Ysgol Filfeddygaeth

Ysgol Filfeddygaeth

19 Tachwedd 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhyddhau’r lluniau cyntaf o unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru a agorodd am y tro cyntaf eleni.

Mae’r lluniau yn dangos y Ganolfan Addysg Milfeddygaeth newydd ar gampws Penglais y Brifysgol a’r garfan gyntaf o fyfyrwyr.

Mae’r myfyrwyr yn elwa o’r buddsoddiad o dros £2 miliwn mewn cyfleusterau dysgu newydd yn y Ganolfan ar gampws Penglais y Brifysgol, sy’n cynnwys cyfleusterau anatomi ac astudio newydd sbon.

Cafodd y cyfleusterau eu hariannu drwy gyfuniad o roddion gan gyn-fyfyrwyr a chronfeydd y Brifysgol ei hun.

Dechreuodd y myfyrwyr cyntaf ar y radd bum mlynedd ym mis Medi eleni.

Byddant yn treulio dwy flynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd i ddilyn yng Nghampws Hawkshead y Coleg Milfeddygol Brenhinol yn Swydd Hertford.

Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r ystod lawn o greaduriaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm, yn unol â phob rhaglen filfeddygol arall.

Mae’r cwrs hefyd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg, sydd wedi’i hariannu’n rhannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth yr Ysgol Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae ymrwymiad y staff a’r myfyrwyr yn ein blwyddyn gyntaf wedi bod yn arbennig. Mae agor yr Ysgol a’r cyfleusterau newydd yn hynod gyffrous i ni i gyd. Mae ymdrechion a chefnogaeth cymaint o bobl a sefydliadau wedi arwain at hyn – diolch o galon i bawb.

“Wedi cymaint o waith caled gan staff ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn paratoi ar gyfer dechrau’r cwrs, mae’n deimlad gwych bod y myfyrwyr nawr wrthi’n astudio. Maen nhw’n elwa’n fawr o sgiliau’r tîm staff newydd a’r buddsoddiad sylweddol yn y cyfleusterau newydd.”

Mae’r Ysgol newydd yn adeiladu ar dros 100 mlynedd o addysgu ac ymchwilio ym maes iechyd anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, yn fwy diweddar, y radd BSc Biowyddorau Milfeddygol a gyflwynwyd yn llwyddiannus ym mis Medi 2015.

Yn ogystal â’r cyfleusterau newydd ar gampws Penglais y Brifysgol, bydd y myfyrwyr hefyd yn astudio yn y labordai sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr IBERS ac yn ennill profiad gwerthfawr ar ffermydd llaeth a defaid y Brifysgol, ac yng Nghanolfan Geffylau Lluest.