Ymchwil iechyd newydd i gynorthwyo achub pengwiniaid Affrica rhag difodiant

Pengwiniaid Affrica ar yn Namibia ©J Kemper

Pengwiniaid Affrica ar yn Namibia ©J Kemper

03 Mehefin 2021

Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i sut mae afiechydon a llygredd yn cyfrannu at y cwymp ym mhoblogaeth pengwiniaid Affrica, rhywogaeth sy’n wynebu difodiant o fewn y tri deg i wyth deg mlynedd nesaf.

Mae’r prosiect rhyngwladol yn edrych ar y rhesymau iechyd y tu ôl i’r dirywiad parhaus yn nifer yr adar wedi cychwyn yn ddiweddar gyda lansiad swyddogol a arolygon maes. 

Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, amcangyfrifwyd bod poblogaeth o dros dair miliwn o’r rhywogaeth hon o bengwiniaid.

Fodd bynnag, mae’r boblogaeth wedi cwympo’n sylweddol oherwydd gor-gasglu wyau a guano, ac, yn fwy diweddar, diffyg pysgod o ganlyniad i bysgota diwydiannol a newidiadau amgylchiadau. 

Erbyn 2009, 26,000 yn unig o barau bridio oedd, ac, o ganlyniad, dynodwyd yr adar fel rhai dan fygythiad gan yr Undeb Rhyngwladol dros Warchod Natur (IUCN). Erbyn heddiw, llai na 20,000 o barau sydd - llai na 3% y niferoedd a fu 100 mlynedd yn ôl.

Mae’r bygythiadau allweddol iddynt yn hysbys, a gwnaed ymdrechion lu gan y llywodraeth ac asiantaethau preifat i fynd i adael â nhw, ni wyddys lawer am y bygythiadau iechyd ac afiechydon i’r rhywogaeth.

Mae grŵp o bartneriaid rhyngwladol, o’r enw ‘Iechyd Pengwiniaid Affrica’, yn cynnal ymchwil mewn pum maes mewn ymdrech i ddarganfod achosion iechyd cwymp y boblogaeth.

Mae’r gwaith yn cynnwys cynnal arolwg iechyd o’r pengwiniaid drwy archwilio adar gwyllt, cymryd ystod o samplau er mwyn eu dadansoddi, chwilio am gemegau gwenwynig mewn adar sydd wedi marw, monitro arfordiroedd a chytref gan ddefnyddio gwyddoniaeth dinasyddion a dronau, asesiadau rhanddeiliaid a modelu newid yn y boblogaeth.

Hyd yn hyn, mae adar o ddwy gytref – Ynys Dassen yn Ne Affrica ac Ynys Halifax yn Namibia – wedi eu samplo.

Dywedodd Athro Darrell Abernethy, pennaeth ysgol filfeddygol newydd Prifysgol Aberystwyth ac yn un o sylfaenwyr y prosiect Iechyd Pengwiniaid Affrica:

“Mae pengwiniaid Affrica yn wynebu diflaniad yn eu cynefin o fewn ein hoes. Mae ymdrechion polisi a gwarchodaeth yn seiliedig ar y wyddoniaeth ddiweddaraf o bwys hanfodol er mwyn gwarchod y rhywogaeth eiconig hon.

“Nid oes llawer yn wybyddus am effaith afiechydon a bygythiadau iechyd ar gynaliadwyedd y boblogaeth. Lladdwyd cannoedd o adar o ganlyniad i achosion o ffliw adar yn 2018 a 2019 a dangosodd sut all cytrefi gael eu heffeithio gan yr afiechyd. Er mwyn dysgu rhagor am yr effeithiau, rydym wedi recriwtio arbenigwyr blaenllaw i gynnal cyfres o astudiaethau er mwyn casglu a dadansoddi data allweddol er mwyn cefnogi asiantaethau wrthi iddyn nhw weithio tuag at nod cyffredin: achub pengwin Affrica rhag difodiant.”

Mae’r prosiect yn defnyddio dull ‘Un Iechyd’, sef safbwynt iechyd cyhoeddus sy’n cydnabod bod yna gysylltiad agos rhwng iechyd pobl ac iechyd anifeiliaid a’n hamgylchedd cyffredin. Ychwanegodd Yr Athro Abernethy:

“Mae’r prosiect eisoes, hyd yn oed ar yr adeg gynnar hon, wedi dangos gwerth gweithio ar y cyd, gan ddefnyddio’r dull ‘Un Iechyd’. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r holl gyllidwyr a phartneriaid sy’n cefnogi’r ymchwil allweddol hwn.”

Mae’r tîm sy’n gweithio ar y prosiect yn cynnwys ymchwilwyr o nifer fawr o sefydliadau o amgylch y byd. Mae’r rheini yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, Freie Universität yn Berlin, Parciau Cenedlaethol De Affrica, Sefydliad De Affrica dros Warchod Adar Arfordirol, Prifysgol Namibia a Phrifysgol Pretoria.

Mae’r prosiect wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth yr Almaen (GIZ, Meerwissen), Ymddiriedolaeth Elusennol Hans Hohesien a’r Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol.

Ychwanegodd Dr Stephen van de Spuy, Prif Weithredwr SANCCOB:

 

“Mae deall risgiau afiechydon yn y rhywogaeth hon sydd dan fygythiad yn rhan bwysig o’n hymdrechion i achub y rhywogaeth ac adar eraill y môr rhag difodiant. Mae SABCCOB yn falch o fod yn rhan o'r tîm rhyngwladol o arbenigwyr sy’n ymchwilio i iechyd pengwiniaid.”