Ap newydd i helpu cleifion strôc i wella gartref yn ystod Covid-19
21 Ionawr 2021
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu ap ar gyfer ffôn symudol i helpu cleifion sy’n gwella wedi strôc i ymarfer mwy ac ymdopi ag unigedd yn ystod pandemig Covid-19.
Gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, bydd yr ap Ymarferydd Ymarfer Rhithwir yn darparu rhaglenni hyfforddi yn y cartref sydd wedi'u teilwra ar gyfer anawsterau symud a ysgogir gan strôc.
Bydd yn galluogi cleifion i hunanasesu a monitro eu symudiadau corfforol eu hunain yn ogystal â darparu adborth amser real er mwyn hybu hunan-gymhelliant.
Bydd gwelliannau yn y dyfodol yn cynnwys opsiwn i gleifion rannu eu statws gyda'u hymarferwr GIG a chydag ymchwilwyr.
Cefnogir y prosiect gan Swyddfa Wyddoniaeth Llywodraeth Cymru drwy grant Sêr Cymru o £66,000 a ddyfarnwyd fel rhan o gylch ariannu arbennig a sefydlwyd i gefnogi prosiectau ymchwil sy'n mynd i'r afael â materion Covid-19, ac sy’n cael ei ariannu’n rhannol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
Dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams: "Mae coronafeirws wedi effeithiau ar bobl mewn sawl ffordd wahanol, gyda'r angen i hunanynysu yn golygu bod angen i ni newid y ffordd rydyn ni'n ymarfer corff.
"Rwy'n falch ein bod yn cefnogi'r prosiect hwn drwy Sêr Cymru a bod staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn galluy defnyddio eu harbenigedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy'n gwella ar ôl cael strôc."
Mae'r Prif Ymchwilydd Dr Otar Akanyeti yn Gymrawd Ymchwil Sêr Cymru ac yn ddarlithydd yn yr Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Nod yr Ymarferydd Ymarfer Rhithwir yw lleihau ymddygiad eisteddog ar adeg pan allai cleifion strôc fod yn hunanynysu wrth wella gartref. Drwy hyrwyddo gweithgarwch symud, bydd yr ap yn gwella lles corfforol, gwybyddol a meddyliol cleifion, yn cynorthwyo adferiad, ac yn y tymor hir yn atal cymhlethdodau iechyd pellach fel cwympiadau, strôc arall, diabetes neu iselder," meddai Dr Akanyeti.
Daw'r prosiect â thîm ymchwil amlddisgyblaethol o bob rhan o Brifysgol Aberystwyth ynghyd ag arbenigedd mewn Deallusrwydd Artiffisial, Niwrowyddoniaeth, Adfer ar ôl Strôc, Gwyddor Ymarfer Clinigol a Seicoleg.
Dywedodd cyd-ymchwilydd y prosiect Dr Federico Villagra Povina, sy’n ddarlithydd mewn Ymarfer Corff a Ffisioleg yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth: "Does dim dwywaith bod pandemig COVID-19 wedi gosod heriau ychwanegol ar gleifion strôc a'u teuluoedd. Er mwyn lleihau'r risg o haint a chreu lle i gleifion COVID, mae goroeswyr strôc yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty cyn gynted â phosibl ac mae llawer o raglenni adfer wyneb-yn-wyneb gan gynnwys hyfforddiant ymarfer corff wedi'u canslo. Gobeithiwn y bydd yr ap yn gwneud cyfraniad pwysig i'r broses adfer ar yr adeg heriol hon."
Dywedodd Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae canlyniadau adfer wedi strôc yn cael eu heffeithio'n arbennig mewn ardaloedd gwledig lle mae demograffeg hŷn a mynediad cyfyngedig at wasanaethau gofal iechyd. Yn y tymor hir felly, nod yr ap yw darparu gofal strôc drwy gynnig rhaglenni adfer fforddiadwy ar gyfer cleifion difreintiedig sydd ag incwm is neu sy'n byw mewn ardaloedd gwledig."
Dywedodd Mr David Langford, arbenigwr iechyd ac ymarfer corff siartredig ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ymchwilydd arweiniol ar y prosiect: "Mae strôc yn ddigwyddiad sy'n newid bywydau a'n nod yw grymuso cleifion i adennill annibyniaeth a gwella eu ffitrwydd ymarferol gan ddefnyddio ein hap arloesol sydd wedi’i gynllunio'n benodol ar gyfer strôc."
Dywedodd yr Athro Chris Price o'r Adran Gyfrifiadureg: "Mae'r prosiect hwn yn rhan o'n hymdrechion parhaus i wella llwybrau gofal strôc gan ddefnyddio atebion arloesol sy'n cael eu harwain gan dechnoleg. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r GIG, ac yn anelu at ddarparu dealltwriaeth fecanistig o sut mae strôc yn effeithio ar symudedd ac yn helpu cleifion i wella drwy ymyriadau personol."
Mae 1.2 miliwn o oroeswyr strôc yn y DU gyda 100,000 o achosion newydd bob blwyddyn ac amcangyfrif o gost o £3biliwn i'r GIG.
Caiff rhaglen Sêr Cymru ei ariannu’n rhannol drwy’r Comisiwn Ewropeaidd, a Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.