Mwyafrif myfyrwyr amaeth yn fenywod ym Mhrifysgol Aberystwyth am y tro cyntaf

Hen dad-cu Bethany Harper, Ray, pan oedd yn weithiwr fferm ym 1963 ac ar y dde Bethany ei hun yn gweithio yn 2017

Hen dad-cu Bethany Harper, Ray, pan oedd yn weithiwr fferm ym 1963 ac ar y dde Bethany ei hun yn gweithio yn 2017

15 Hydref 2021

Mae rhan fwyaf o’r myfyrwyr sy’n astudio amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn fenywod am y tro cyntaf yn hanes y sefydliad.

Mae academyddion wedi galw’r datblygiad yn “garreg filltir bwysig”, sy’n dod wrth i'r Cenhedloedd Unedig nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod Gwledig heddiw (15 Hydref).

Mae amaethyddiaeth yn y DU yn parhau i fod yn ddiwydiant o ddynion yn bennaf, ond mae cyfran y ffermwyr benywaidd yn cynyddu

Y llynedd, torrodd Prifysgol Aberystwyth dir newydd pan ddechreuodd y nifer uchaf erioed o fenywod gyrsiau Amaeth yno.

Mae Bethany Harper, sy'n hanu o Wiltshire, yn 22 mlwydd oed ac yn ei hail flwyddyn yn astudio ar gyfer gradd mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Meddai:

“Mae'n wych bod cymaint o ferched bellach yn astudio ac yn gweithio ym myd amaeth. Nid yn unig y gallwn ni, fenywod, wneud gwaith dynion, ond gallwn ni hefyd hybu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ifainc.

“Dydw i ddim o gefndir ffermio, ond ces i’m magu o amgylch cŵn a cheffylau. Astudiais i amaethyddiaeth yn ystod fy TGAU ac roeddwn i wrth fy modd. Dyna roeddwn i am ei wneud wedyn, felly parheais i'w astudio yn y coleg.

“Yna treuliais i ddwy flynedd yn gweithio’n llawn amser ar gymysgedd o ffermydd yn y Deyrnas Gyfunol, yr Unol Daleithiau a Seland Newydd. Roedd yn brofiad gwych, a rhoddodd gyfle i mi weld cymaint o wahanol bethau.

“Yn amlwg, fe wnaeth y pandemig effeithio ar bopeth, a siaradais â fy rhieni am fynd i’r brifysgol. Dwi wrth fy modd yn gwneud y gwaith ymarferol o ffermio, ond mae cael gradd yn cynnig cyfleoedd i weithio mewn gyrfaoedd cysylltiedig eraill, megis swyddi fel rheolwr fferm neu agronomegydd. Doeddwn i ddim eisiau colli'r cyfle i ddatblygu ymhellach, felly dywedais i: amdani. Mae Aberystwyth yn lle gwych i fyw, ac dwi’n gallu gweithio ar fferm laeth wrth astudio. ”

Mae Anaïs Bunyan yn 20 mlwydd oed ac o Luton. Mae hi yn ei hail flwyddyn yn astudio ar gyfer gradd mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, a dywedodd ei bod wrth ei bodd gyda'r newyddion:

“Mae'n hollol anhygoel gweld cymaint o fenywod yn astudio amaethyddiaeth ac yn gweithio yn y maes. Mae'n wych gweld mwy o fenywod yn dod i mewn i ddiwydiant sydd wedi’i ddominyddu gan ddynion yn draddodiadol.

“Dyw ffermio ddim yn fy nheulu, ond dwi wastad wedi tyfu i fyny gyda chariad at anifeiliaid; roedd fy rhieni bob amser yn dweud pa mor bwysig oedd parchu anifeiliaid a'r byd o'n cwmpas.

“Treuliais fy 2 flynedd yn y coleg yn astudio rheoli anifeiliaid, a ches i’r cyfle i weithio ochr yn ochr â ffrind ar fferm laeth, ac yn araf tyfodd fy nghariad at ffermio. Er ei fod yn ddiwydiant nad oeddwn yn gwybod dim amdano ac nad oedd gen i unrhyw brofiad ohono, y mwyaf o waith a wnes i, a'r mwyaf o gyfrifoldeb a ges i, y mwyaf yr oeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy modloni gan fy ngwaith. Doeddwn i ddim yn siŵr am fynd i'r brifysgol ar y dechrau, ond gwnaeth gweld golygfeydd syfrdanol Aberystwyth wneud imi feddwl i mi fy hun: os ga i’r graddau, af i, ac dwi mor falch fy mod yma!

“Mae gweld cymaint o ferched eraill ar fy nghwrs, a menywod yn cynnal darlithoedd a dosbarthiadau, mor rymus ac yn bendant yn teimlo fel cam i’r cyfeiriad cywir ar gyfer y diwydiant amaethyddol.”

Mae Dr Pip Nicholas-Davies yn Ddarlithydd mewn Cynhyrchu Da Byw ac yn bennaeth cyfredol y grŵp addysgu Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ychwanegodd:

“Mae hon yn garreg filltir bwysig i ni. Mae'n wych gweld cymaint mwy o fenywod ifanc yn astudio Amaethyddiaeth yn Aberystwyth sydd wir yn frwdfrydig am fwyd, ffermio a'r amgylchedd ac a fydd, heb amheuaeth, yn mynd ymlaen i gael effaith sylweddol ar y sector ehangach wrth iddynt fwrw ymlaen gyda’u gyrfaoedd.

“Mae gradd mewn Amaethyddiaeth o Aberystwyth yn darparu sylfaen sgiliau eang i'r menywod hyn mewn rheoli busnes a’r amgylchedd, maeth anifeiliaid, agronomeg, gwyddor pridd, dadansoddi systemau ac ymchwil ac mae'r cyfleoedd gyrfa yn ddiderfyn.''