Ymchwil meillion coch i leihau mewnforion soia

o'r chwith: Mr Jim Vale o Germinal gyda Dr Ana Winters a Yr Athro Joe Gallagher, IBERS Prifysgol Aberystwyth yn y lleiniau prawf meillion cochion yng Ngogerddan.

o'r chwith: Mr Jim Vale o Germinal gyda Dr Ana Winters a Yr Athro Joe Gallagher, IBERS Prifysgol Aberystwyth yn y lleiniau prawf meillion cochion yng Ngogerddan.

12 Hydref 2021

Mae ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth yn archwilio sut y gellid bridio cnwd eco-gyfeillgar i gynhyrchu protein sy’n seiliedig ar blanhigion, er mwyn lleihau’r angen am fewnforion porthiant soia a gwrtaith sy’n seiliedig ar nitrogen.

Mae meillion coch, gyda’i blodau coch-binc, yn frodorol i Ewrop, ac yn gyffredin iawn ar lawntiau ac mewn parciau.

Mae prosiect newydd yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) yn edrych ar ddefnyddiau newydd o feillion coch i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a chefnogi iechyd y genedl.

Mae meillion coch yn borthiant o ansawdd uchel sy'n llawn protein ar gyfer gwartheg a defaid. Gallai helpu i ddisodli porthiant ffa soia wedi'i fewnforio - bu dros ddwy filiwn o dunelli ohono wedi’i fewnforio i'r DU yn 2017/18.

Mae'r prosiect yn edrych ar bioburo porthiant meillion coch i ddarparu ffynhonnell o brotein cartref ar gyfer dofednod a moch yn bennaf.

Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar warchod ansawdd protein a sicrhau'r cynnyrch mwyaf posibl o'r cynhyrchion targed hyn. Bydd y protein yn cael ei fwydo i ieir a chymhau’r rheiny ag ieir sy'n cael eu bwydo â soia i ddangos ei botensial i amnewid protein soia.

Yn ogystal â'r buddion amgylcheddol, gallai dull o'r fath greu swyddi yn y sectorau amaeth, bwyd a biotechnoleg yng Nghymru a thu hwnt.

Esboniodd yr Athro Joe Gallagher o Brifysgol Aberystwyth, sy'n arwain y prosiect:

”Gellir tyfu meillion coch ledled Cymru gyfan a'r DU. Byddwn yn dewis ac yn croes-fridio’r planhigyn i gyflwyno nodweddion buddiol a gwella ei rai presennol. Canlyniad y cynllun bridio hwn fydd mathau meillion coch pwrpasol ar gyfer bioburo i gynhyrchu protein a chyfansoddion gwerth uchel. "

 “Gall gwella ansawdd protein meillion coch trwy fridio planhigion arloesol fod yn sbardun strategol hirdymor allweddol i leihau ein dibyniaeth ar fewnforion.

“Gall echdynnu protein o feillion coch ar gyfer bwyd anifeiliaid hefyd ddod â buddion economaidd uniongyrchol i ffermwyr fel ‘cnwd arian parod’. Mae ganddo'r budd ychwanegol o leihau'r diffyg protein sy'n cynyddu yn y DU.

“Gall meillion coch drwsio nitrogen atmosfferig a thrwy hynny leihau’r angen am wrtaith nitrogen mwynol, a gwella ffrwythlondeb a strwythur y pridd. Fel cnwd lluosflwydd, mae'n dal golau haul trwy gydol y flwyddyn, gan ddyddodi carbon o'r atmosffer i'r pridd.”

Mae'r academyddion hefyd yn ymchwilio i ffyrdd o gynyddu gwerth y cnwd ymhellach fel ychwanegiad iechyd, gan gynnwys edrych ar gyfansoddion sydd â phriodweddau hormonaidd (isoflavonoidau) a'r alcohol siwgr, pinitol.

Mae'r rhain yn cronni mewn meillion coch ar lefelau eithaf uchel ac ar hyn o bryd fe'u defnyddir mewn ystod o atchwanegiadau iechyd gan gynnwys rhai gwrth clefyd siwgr a'r rhai sy'n mynd i'r afael â symptomau menopos.

Ariennir y prosiect RC Promo hwn gan Lywodraeth Cymru trwy arbenigedd SMART ac mae'n elwa o arbenigedd tîm bioburo BEACON ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth ochr yn ochr â Germinal Holdings LTD, a Blue Sky Botanics.