Myfyrwraig IBERS yn ennill Ysgoloriaeth deithio
18 Mai 2015
Mae myfyrwraig Sŵoleg o IBERS wedi ennill Ysgoloriaeth deithio gwerth £1,000 oddi wrth Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (Urdd Lifrai Cymru gynt).
Dyfodol Cynaliadwy Organig yng Nghymru
05 Mai 2015
Bydd y prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL) a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE yn cynnal cynhadledd strategaeth yn Llanfair-ym-Muallt ar 21 Mai
Gwyddonwyr IBERS yn cefnogi ‘Taith Tân’
07 Mai 2015
Mae'r ffisiolegwyr chwaraeon yn IBERS yn cynghori'r tîm ar y ffordd orau i baratoi mewn perthynas ag egni a strategaethau ailgyflenwi hylif ar gyfer y digwyddiad 14 diwrnod.
Y radd gyntaf erioed yn y DU mewn Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn Aberystwyth
14 Mai 2015
Mae’r radd gyntaf erioed yn y DG mewn Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol newydd gael ei dilysu ym Mhrifysgol Aberystwyth, a bydd yn cofrestru ei myfyrwyr cyntaf ym mis Medi 2015.
Ehangu Gorwelion Gwyrdd yn y Ffair Wanwyn
20 Mai 2015
Bu digonedd o fwrlwm ar safle Canolfan Organig Cymru eleni oedd wedi ei leoli ym mhafiliwn Gorwelion Gwyrdd y Sioe Wanwyn yn Llanelwedd.
Gwyddonydd o IBERS yn Kathmandu
22 Mai 2015
Mae Dr Tony Callaghan a gwblhaodd ei PhD yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth yn gynharach eleni yn helpu i sicrhau cyflenwad dŵr glân yn Kathmandu yn Nepal a drawyd gan ddaeargrynfeydd yn ddiweddar.
Dyfarnu £3.7 miliwn i gonsortiwm rhyngwladol dan arweiniad gwyddonydd o Aberystwyth i ymladd heintiau llyngyr lledog
26 Mai 2015
Mae Ymddiriedolaeth Wellcome, y cyllidwr preifat mwyaf yn y DU ar gyfer ymchwil biofeddygol a milfeddygol, wedi cyflwyno Dyfarniad Strategol Gwyddorau Biolegol werth £3.7M dros 5 mlynedd i dîm rhyngwladol o wyddonwyr o’r DU, yr Almaen, Ffrainc ac UDA dan arweiniad yr Athro Karl Hoffmann yn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS).