Dyfodol Cynaliadwy Organig yng Nghymru

05 Mai 2015

Bydd y prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL) a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r UE yn cynnal cynhadledd strategaeth yn Llanfair-ym-Muallt ar 21 Mai. Bydd y gynhadledd yn edrych yn ôl dros bum mlynedd anodd ac yn gosod llwybr i fynd â’r sector yn ei flaen hyd at 2020.

Thema’r gynhadledd yw Cydnerthedd a Chyfleoedd: Marchnata a Chynhyrchu Organig Cynaliadwy yng Nghymru. Mae’r sector organig yn cael ei arwain gan ddefnyddwyr a bydd y gynhadledd yn cynnwys lansio adroddiad ar y Farchnad Manwerthu Organig yng Nghymru. Bydd Susanne Padel, un o awduron yr adroddiad ac un o’r uwch reolwyr rhaglenni yn y Ganolfan Ymchwil Organig, Elm Farm, yn cyflwyno’r prif gasgliadau.

Agweddau masnachol ar y farchnad fydd thema’r anerchiad agoriadol gan Mr Duncan Sinclair, Rheolwr Amaeth WaitroseMae gan Waitrose gysylltiadau cryf â Phrifysgol Aberystwyth, un o bartneriaid Canolfan Organig Cymru, ac mae’n un o’r prif fan-werthwyr yn y sector organig.

Bydd sesiwn y bore hefyd yn edrych ar sut y gall busnesau yn y gadwyn gyflenwi ymgysylltu â’u cwsmeriaid a bydd Mark Jones o Uned Adfywio Gwledig Llywodraeth Cymru’n edrych ar fwyd a’r gymuned. Cadeirir y cyflwyniadau a’r drafodaeth banel gan yr Athro Nigel Scollan, Athro Amaethyddiaeth Gynaliadwy i Waitrose.

Dywedodd Dafydd Owen, Cyfarwyddwr  Prosiect BOBL:

“Mae’r gynhadledd yn dynodi carreg filltir bwysig wrth ddatblygu’r sector organig yng Nghymru ac yn gyfle i adeiladu ar yr hyn sydd wedi’i ddysgu gan y prosiect BOBL a llwyddiant Glastir Organig wrth gefnogi ffermwyr sydd wedi ymrwymo i gynhyrchu’n organig am y pum mlynedd nesa. Bydd y siaradwyr yn rhoi cipolwg i’r cynrychiolwyr ar y farchnad cynhyrchion organig presennol a chyflawniadau’r prosiect BOBL.”

Bydd sesiwn y prynhawn o dan arweiniad yr Athro Nic Lampkin, Cyfarwyddwr Gweithredol y Ganolfan Ymchwil Organig, Elm Farm, a bydd yn edrych ar anghenion y sector organig dros y pum mlynedd nesaf. Bydd gweithdai’r prynhawn yn adeiladu ar gynhadledd i ran-ddeiliaid a gynhaliwyd ym mis Chwefror ac yn gyfle i gynrychiolwyr rannu profiadau a chyfrannu syniadau i strategaeth i arwain y sector organig hyd at 2020.

Aeth Mr Owen rhagddo: “Mae Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad hanesyddol y sector organig yn y DU a gallwn barhau i wneud hynny. Cyfle yw’r gynhadledd hon i gytuno ar y dyfodol yr ydym yn ei ddymuno ac i ddylanwadu ar y buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau ei fod yn digwydd.

“Rhaid i ni adeiladu’r strategaeth ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflawni a’i ddysgu a’i wneud yn berthnasol i’r gadwyn gyflenwi organig er mwyn gwireddu’r weledigaeth o ddyfodol disglair i’r sector yng Nghymru.”