Dyfarnu £3.7 miliwn i gonsortiwm rhyngwladol dan arweiniad gwyddonydd o Aberystwyth i ymladd heintiau llyngyr lledog

Yr Athro Karl Hoffmann, Athro Parasitoleg yn IBERS.

Yr Athro Karl Hoffmann, Athro Parasitoleg yn IBERS.

26 Mai 2015

Teitl y prosiect yw ‘the Flatworm Functional Genomics Initiative (FUGI)’ a bydd yn datblygu pecynnau ymchwil fydd yn newid y maes ar gyfer astudio a thrin rhywogaethau llyngyr lledog parasitig sy’n gyfrifol am y clefydau dinistriol echinococcosis (clefyd hydatid) a schistosomiasis (bilharzia), ac a fydd yn llywio ymchwil llyngyr lledog i’r unfed ganrif ar hugain.

Enillodd yr Athro Hoffmann y dyfarniad ar y cyd â Dr Matthew Berriman yn Sefydliad Sanger Ymddiriedolaeth Wellcome (WTSI), Dr Ludovic Vallier ym Mhrifysgol Caergrawnt, yr Athro Christoph Grunau ym Mhrifysgol Perpignan a’r Centre National de la Recherche Scientifique (CNRS), yr Athro Klaus Brehm ym Mhrifysgol Wuerzburg, Dr James Collins yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Texas, yr Athro Christoph Grevelding ym Mhrifysgol Justus-Liebig-University Giessen a’r Athro Paul Brindley ym Mhrifysgol George Washington.

Ar ôl sicrhau’r dyfarniad clodfawr hwn dywedodd yr Athro Hoffmann “Rydym ni’n hynod o falch fod Ymddiriedolaeth Wellcome wedi dewis ein tîm ni i ddatblygu’r adnoddau diweddaraf hyn, fydd yn chwyldroi ein gallu i astudio a thrin llyngyr lledog parasitig, gan gynnwys llyngyr gwaed a llyngyr rhuban. 

“Bydd creu’r pecynnau moleciwlaidd a chellol hyn yn denu ymchwilwyr newydd i’n maes ac yn cynyddu cyflymder a nifer y darganfyddiadau biolegol sylweddol; gyda llawer o’r rhain yn arwain at ganfod strategaethau rheoli newydd.

“Llyngyr lledog parasitig sy’n achosi rhai o’r clefydau heintus mwyaf dinistriol ar y blaned ac maen nhw’n gyfrifol am feichiau sylweddol a llethol mewn pobl a da byw. Tra bo’r dull rheoli cyfredol yn bennaf yn seiliedig ar gemotherapi, mae risg gwirioneddol bod y strategaeth hon yn anghynaladwy oherwydd bod parasitiaid yn datblygu sy’n gallu gwrthsefyll y cyffuriau cyfyngedig sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.”

Mae buddsoddiad sylweddol gan Ymddiriedolaeth Wellcome mewn prosiectau dilyniannu genomau llyngyr lledog dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi bod yn hwb hanfodol i ymchwil yn y maes hwn, sy’n tueddu i gael ei esgeuluso.

Mae’r mentrau hyn yn dechrau trawsnewid maes helmintholeg (astudio llyngyr lledog parasitig) ac yn cynnig gobaith y bydd strategaethau newydd ar gyfer rheoli’r clefydau heintus hyn yn cael eu canfod yn fuan.

Fodd bynnag, fel y rhybuddia’r Athro Hoffmann, “Yr her sy’n wynebu ymchwilwyr sy’n cloddio gwybodaeth enomig y llyngyr lledog yw’r diffyg offerynnau addas i allu nodweddu swyddogaeth cynhyrchion genynnau llyngyr lledog yn effeithiol a throsglwyddo’r wybodaeth hon i gyffuriau neu frechlynnau y mae angen mawr amdanyn nhw ac y gellir eu defnyddio mewn meysydd biofeddygol a milfeddygol. Mae hyn yn llesteirio cynnydd yr ymchwil yn fawr.”

I oresgyn yr her hon, bydd yr Athro Hoffmann a’i gydweithwyr ymchwil ym mhrosiect FUGI yn creu’r offerynnau cyntaf un i drin genomau llyngyr lledog parasitig yn effeithiol gan ddefnyddio system golygu genom CRISPR/Cas. 

Bydd y technegau hyn yn galluogi’r gymuned llyngyr lledog i gynnal yr ymchwiliadau ar lefel genynnau sydd eu hangen i ddeall yn iawn sut mae pob genyn yn cyfranogi yng nghymhlethdodau datblygiad llyngyr lledog, rhyngweithio â’r corff lletyol a datblygiad clefydau.

Bydd consortiwm FUGI hefyd yn defnyddio eu harbenigedd cyfunol i greu bôn-gelloedd llyngyr lledog a fydd, am y tro cyntaf, yn galluogi ymchwilwyr i astudio bioleg llyngyr lledog yn y labordy, heb fod angen cynnal cylchoedd oes parasit cymhleth mewn anifail lletyol.

Gyda’i gilydd, bydd creu a chymhwyso offerynnau trawsnewidiol o’r fath yn caniatáu i helmintholegwyr wneud camau breision at ddatblygu cyffuriau a brechlynnau anthelmintig y genhedlaeth nesaf, y mae eu hangen yn ddirfawr.

Dyma’r tro cyntaf erioed i dîm mor amrywiol o arbenigwyr rhyngwladol ddod at ei gilydd yn y modd hwn i ymladd y clefydau dinistriol sy’n cael eu hachosi gan barasitiaid llyngyr lledog.

Drwy gynhyrchu offerynnau ac adnoddau trawsfudol newydd, bydd ymchwilwyr FUGI yn darparu systemau arbrofol hyblyg i’r gymuned helminth y mae eu hangen ar frys os ydyn nhw am atal effeithiau dinistriol y pathogenau hyn ar bobl ac anifeiliaid unwaith ac am byth.

Dywedodd Dr Michael Chew, Ymgynghorydd Portffolio Gwyddoniaeth Ymddiriedolaeth Wellcome: “Mae llyngyr parasitig yn achosi salwch difrifol ac anabledd tymor hir drwy’r byd sy’n datblygu, ond mae unrhyw gynnydd gyda thriniaethau a brechlynnau newydd wedi bod yn rhwystredig o araf. Bwriad FUGI yw newid hyn drwy alluogi gwyddonwyr i drin genynnau llyngyr lledog yn y labordy am y tro cyntaf. Y nod yn y pen draw yw adnabod bylchau yn arfwisg y llyngyr lledog y gellid eu targedu gyda meddyginiaethau newydd sy’n helpu i ddileu’r clefydau dinistriol maen nhw’n eu hachosi.”

Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS "Rwyf i wrth fy modd gyda’r dyfarniad grant hwn sy’n adlewyrchu llawer o’r cryfderau sydd gan Aberystwyth yn gweithio i wella iechyd anifeiliaid a phobl. Rydym ni’n arbennig o falch i dderbyn y cymorth hwn am waith sy’n cysylltu bioleg arloesol yn uniongyrchol â buddiannau gwirioneddol i gymdeithas. Mae’r prosiect yn dangos gwerth ein cydweithio â’n partneriaethau rhyngwladol ar gyfer darparu arbenigedd ac effaith fyd-eang.”