Gwyddonwyr IBERS yn cefnogi ‘Taith Tân’

Chwith i'r dde: Dr Rhys Thatcher o IBERS gydag aelodau craidd Taith Tân, Iwan Cray, Rheolwr Sirol Gwasanaeth Tân Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, John Evans, Paul James a Charlie Taylor.

Chwith i'r dde: Dr Rhys Thatcher o IBERS gydag aelodau craidd Taith Tân, Iwan Cray, Rheolwr Sirol Gwasanaeth Tân Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, John Evans, Paul James a Charlie Taylor.

07 Mai 2015

Mae gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi staff Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru yn eu taith feicio i godi £15,000 ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae'r ffisiolegwyr chwaraeon yn IBERS yn cynghori'r tîm ar y ffordd orau i baratoi mewn perthynas ag egni a strategaethau ailgyflenwi hylif ar gyfer y digwyddiad 14 diwrnod.

Mae’r 'Daith Tân' gyntaf yn daith feicio sy'n cysylltu pob un o’r 152 o Orsafoedd Tân Cymru, a bydd yn digwydd dros 14 diwrnod rhwng yr 22ain o Fai a’r 4ydd o Fehefin 2015. Mae tîm craidd o feicwyr am gwblhau'r daith lawn, sef 1350 o filltiroedd, a disgwylir i gannoedd mwy i gefnogi ac ymuno yn yr her drwy gwblhau cymalau unigol ar y daith.

Bydd y cwrs yn cwmpasu tirweddau hardd Cymru a thrwy uno pob un o'r cymunedau gwasanaeth tân o amgylch y wlad, mae hwn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad gwych.

Mae croeso i holl staff y Gwasanaeth ac mae taith ar gyfer pob gallu, o rai sy’n frwd dros chwaraeon eithafol i'r rhai sy'n dymuno cymryd rhan yn fwy anffurfiol ac am yr hwyl.

Bu aelodau tîm craidd Taith Tân, a fydd yn cwblhau'r her gyfan, yn labordai chwaraeon ac ymarfer IBERS Prifysgol Aberystwyth ar y 5ed o Fai.

Yno cawsant eu profi a’u cynghori ar y ffordd orau i baratoi mewn perthynas ag egni a strategaethau ailgyflenwi hylif ar gyfer y digwyddiad 14 diwrnod.

Cafodd cyfansoddiad cyrff y beicwyr eu hasesu drwy belydr-x amsugno ddeuol a mesurwyd eu gallu aerobig er mwyn cynnig cyngor ar strategaethau rheoli'r galon ac adferiad.

Dywedodd Iwan Cray, Rheolwr Sirol Gwasanaeth Tân Ceredigion a Sir Gaerfyrddin: “Mae cefnogaeth Dr Rhys Thatcher a'i dîm yn IBERS wedi bod yn eithriadol. Mae wedi bod yn wych gweld gwybodaeth a dealltwriaeth o wyddoniaeth chwaraeon sydd yn arwain y sector, yn cael ei roi ar waith ar gyfer beicwyr  tîm craidd Taith Tân. Mi fydd cymorth a chyfarwyddyd Prifysgol Aberystwyth yn paratoi'n beicwyr yn dda ar gyfer yr her sydd o'n blaenau yn ddi-os.”

I gefnogi'r digwyddiad gallwch gyfrannu drwy Dudalen Taith Tîm Tân ar:
https://www.justgiving.com/teams/fireride2015

IBERS
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o enynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol o £10.5m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.

AU16215