Ehangu Gorwelion Gwyrdd yn y Ffair Wanwyn
20 Mai 2015
Bu digonedd o fwrlwm ar safle Canolfan Organig Cymru eleni oedd wedi ei leoli ym mhafiliwn Gorwelion Gwyrdd y Sioe Wanwyn yn Llanelwedd.
Cynhaliodd y Fforwm Grawn, sydd wedi ei genfogi gan BOBL (Gwell Cysylltiadau Busnes Organig) gweithdy gwneud pizza ar gyfer plant a rheini barus! Ac arddangoswyd amrywiaeth o wenith Cymreig ganddynt. Rhoddodd Anne Parry o Felin Ganol, Llanrhystud amlinelliad o’r hyn a gyflawnwyd gan y grŵp a lawnsiwyd Adroddiad oedd yn cwmpasu’r gwaith a wnaed ganddynt I geisio ail-adfer y sector.
Dywedodd Tony Little, swyddog prosiect BOBL: “Mae BOBL wedi anelu i ddatblygu marchnadoedd ar gyfer cynnyrch organig wrth yrru arloesedd a hyrwyddo cynaliadwyedd ar bob lefel o fewn y gadwyn gyflenwi a chynyddu y galw gan ddefnyddwyr domestig am gynnyrch organig. Mae'r prosiect wedi rhoi gwybodaeth werthfawr am y farchnad i gynhyrchwyr a'r sector organig yn gyffredinol. "
Ymhlith y gweithgareddau arall roedd y Siop Siarad yn herio pobl I feddwl yn wahanol am nifer o bynciau. Siaradodd y blogwraig bwyd, Annie Levy o Lanidloes am rinweddau eplesu bwyd (food fermenting). Her yr ymgyrchydd newid hinsawdd, George Marshall oedd sut y gellir darbwyllo pobl I gymryd sylw o newid hinsawdd. Roedd Steve Jones o Drenewydd yn gosod sialens I gymunedau I ail-adfer tir cyhoeddus sydd yn nwylo awdurdodau lleol. Gellir creu gerddi cymunedol ar y safleoedd I gyflenwi y gymuned leol â bwyd ffres . Rhoddodd Andrew Warren, cyfarwyddwr Natsol, olwg amgen inni ar gyfleusterau compost tra bod Suzanne Noble o Plant Wild yn ysgogi pobl i greu coedlannau bio-amrywiol.
Ar y Sul roedd cyfle i glywed Gerald Miles o Dŷddewi yn son am CSA, sef cynllun amaeth a gefnogir gan y gymuned. Ac ymhellach o adref cafwyd hanes Pablo Spaull sefydlodd gwmni siocled masnach deg yn Llansanffraid ym Mechain sy’n cydweithio gyda brodorion cynhenid Peru. Rhoddodd William Silverstone o gwmni egni Silverstone, Arberth sgwrs ddifyr ar ynni solar. A chafwyd blas ar WWOOF (cynllun gwirfoddoli byd-eang ar ffermydd organig) gan Roz Mortis, un sydd wedi agor ei drws I wirfoddolwyr rynglwadol.