Cydnabod Rhagoriaeth - Rhodd Goffa Mrs Foster Watson 2008
Cyhoeddwyd bod Dr Robin Chapman i dderbyn Rhodd Goffa Mrs Foster Watson (2008) am ei gyfrol 'Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis'.
Cryfhau'r Cysylltiad â Harvard (Hydref 2008)
Ym mis Hydref ymwelodd dau o aelodau'r staff, sef yr Athro Gruffydd Aled Williams (a ymddeolodd ym mis Awst) a Dr Bleddyn Owen Huws a Phrifysgol Harvard yn Unol Daleithiau America.
Cyfweliadau Llyfr y Flwyddyn 2008
Bu Dr Robin Chapman, ei hun yn gyn-enillydd Cystadleuaeth Llyfr y Glwyddyn, yn cadeirio trafodaethau panel gydag awduron rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yng Ngŵyl y Geli ym mis Mai.
Llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy 2008
Bu 2008 yn flwyddyn nodedig i'r Adran o ran llwyddiannau yn Eisteddfod yr Urdd. Dewi Huw Owen, myfyriwr PhD yn yr Adran, enillodd y Goron gan dderbyn canmoliaeth uchel am dri darn o ryddiaith mewn ffurfiau gwahanol ar y testun “Gwerth”.
Cystadleuaeth y Gadair
Roedd gan y pedwar bardd a ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth hon eleni gysylltiadau gyda'r Adran Gymraeg. Iwan Rhys enillodd y Gadair am gerdd heb fod dros 100 llinell ar y testun “Colli”.
Llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy
03 Mehefin 2008
Bu 2008 yn flwyddyn nodedig i'r Adran o ran llwyddiannau yn Eisteddfod yr Urdd. Dewi Huw Owen, myfyriwr PhD yn yr Adran, enillodd y Goron gan dderbyn canmoliaeth uchel am dri darn o ryddiaith mewn ffurfiau gwahanol ar y testun “Gwerth”.
Cryfhau'r Cysylltiad a Harvard
10 Hydref 2008
Ym mis Hydref ymwelodd dau o aelodau'r staff, sef yr Athro Gruffydd Aled Williams (a ymddeolodd ym mis Awst) a Dr Bleddyn Owen Huws a Phrifysgol Harvard yn Unol Daleithiau America. Fe'u gwahoddwyd, ynghyd a dau o fyfyrwyr ymchwil yr Adran, Adrian Morgan a Daniel Ranbom, i draddodi darlithoedd yng Ngholocwiwm Blynyddol Adran Geltaidd Prifysgol Harvard.
Cydnabod Rhagoriaeth
05 Tachwedd 2008
Cyhoeddwyd bod Dr Robin Chapman i dderbyn Rhodd Goffa Mrs Foster Watson (2008) am ei gyfrol 'Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis'.
Canlyniad Asesiad Ymchwil 2008
30 Tachwedd 2008
Llawenhau y mae Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, yn ei llwyddiant yn Asesiad Ymchwil 2008. Cyflwynwyd mwy o waith ymchwil gennym ym maes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd na chan yr un brifysgol arall drwy Brydain a Gogledd Iwerddon.
Gwibdaith Lenyddol Dafydd ap Gwilym
30 Tachwedd 2008
Yn ddiweddar, bu Dr Huw Meirion Edwards a Dr
Bleddyn Owen Huws yn arwain un o wibdeithiau llenyddol yr Academi – ‘Dafydd ap
Gwilym yng Ngheredigion’.