Llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy
Dewi Huw Owen ac Iwan Rhys
03 Mehefin 2008
Bu 2008 yn flwyddyn nodedig i'r Adran o ran llwyddiannau yn Eisteddfod yr Urdd. Dewi Huw Owen, myfyriwr PhD yn yr Adran, enillodd y Goron gan dderbyn canmoliaeth uchel am dri darn o ryddiaith mewn ffurfiau gwahanol ar y testun “Gwerth”.