Myfyrio a mwynhau yn Gymraeg

Criw o bobl yn mwynhau cerddoriaeth fyw

Amser i fwynhau ac i fyfyrio!

Yn ogystal â’r cyfleoedd euraid i astudio, mae Aberystwyth hefyd yn enwog fel lle delfrydol i fwynhau bywyd allgyrsiol bywiog ac amrywiol.

Cicio'r Bar

Noson lenyddol reolaidd yng Nghanolfan y Celfyddydau yw Cicio’r Bar, a drefnir ac a gyflwynir gan y beirdd Eurig Salisbury, Darlithydd a Phennaeth Cynorthwyol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a Hywel Griffiths, Uwch Ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Ceir dau westai arbennig bob tro, y naill yn fardd a’r llall yn gerddor neu’n fand ac, er 2018, mae ein cynulleidfa wedi ei diddanu gan amrywiaeth eang o berfformwyr, o Aneirin Karadog i Mari George, o Manon Steffan Ros i Georgia Ruth.

 

Noson Llên a Chân

Noson o ddathlu a gynhelir yn flynyddol tua’r Nadolig ac a drefnir gan fyfyrwyr Cymraeg Proffesiynol y flwyddyn gyntaf fel rhan o’u cwrs yw'r Noson Llên a Chân. Ceir cyfweliadau, darlleniadau a pherfformiadau gan enwau adnabyddus ym myd llenyddiaeth a cherddoriaeth ein cenedl.

Gwyliwch Noson Llên a Chân 2021 yma.

Gwyliwch Noson Llên a Chân 2020 yma.

Ymweliadau Grŵp

Cyfoethogir yr addysgu gan ymweliadau pwrpasol â sefydliadau nodedig a phwysig yng Nghymru:

  • Ymweliad ag adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd
  • Ymweliad â Senedd Cymru ym Mae Caerdydd
  • Ymweliadau mwy lleol ee â Chyngor Llyfrau Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Atebol.

Dyma griw y cwrs Cymraeg Proffesiynol ar ymweliad â Llanfihangel Genau'r Glyn.

Cystadlaethau Ysgrifennu Creadigol

Dyma gyfle i ddangos eich doniau ysgrifennu creadigol. Mae'r myfyrwyr Cymraeg Proffesiynol yn trefnu cystadleuaeth ysgrifennu creadigol bob blwyddyn i gyd-fynd â'r Noson Llên a Chân. Maen nhw fel arfer yn hysbysebu'r gystadleuaeth ar wefan yr Adran a’r Brifysgol yn ogystal ag ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cystadlaethau Cyfieithu

Cynhelir hefyd gystadlaethau cyfieithu ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ar gyfer disgyblion uwchradd. Dyma'ch cyfle i flasu byd rhyfeddol y maes cyfieithu!