Dulliau Dysgu ac Addysgu

Myfyrwyr mewn seminar

Dulliau Dysgu ac Addysgu

Am ein bod ni’n Adran gymharol fach, mae gan y myfyrwyr gyswllt agos â darlithwyr sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, ac yn gyson mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn sgorio’n rhagorol o ran Bodlonrwydd Myfyrwyr. 

Rydym yn cyfoethogi ein darlithoedd, ein seminarau a’n gweithdai â’r gweithgareddau canlynol:

  • technegau dysgu arloesol
  • gwaith grŵp
  • adnoddau electronig
  • tiwtorialau bychain
  • recordio darlithoedd
  • sleidiau, taflenni a deunyddiau atodol ar y Bwrdd Du, sef ein porth adnoddau dysgu ar-lein
  • teithiau maes
  • lleoliadau profiad gwaith.

Gwylio seminarau wedi'u recordio