Ysgolion

Criw Ysgol, eu hathrawon ac Eurig Salisbury

Rydyn ni wrth ein boddau yn cydweithio â Chymry ifanc

Fel Adran rydym ni’n ymwybodol iawn o’r gwaith pwysig sy’n digwydd yn yr ysgolion yn ennyn diddordeb darpar-fyfyrwyr at y Gymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd. 

Rydym felly yn awyddus i gefnogi staff a disgyblion ysgolion Cymru drwy ddarparu ymweliadau ysgol, diwrnodau ar y campws, a'r gyfres arbennig, Aber yn Adolygu, sef darlithoedd ar-lein sy'n ymwneud â manylebau TGAU a Safon Uwch. Cysylltwch os hoffech chi wybod mwy am unrhyw agwedd ar y gwaith hwn.

Rydym hefyd yn cydweithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Rhwydwaith Seren i gefnogi’r ddisgyblaeth a’r sector.


Talwrn y Beirdd Ifanc

Buom yn cynnal talyrnau i feirdd yn ein hysgolion dros y blynyddoedd diwethaf dan arweiniad Eurig Salisbury, gyda thimau o bedwar ban Cymru yn darllen eu gwaith. Aeth llawer o'r beirdd ymlaen i gystadlu wedyn yng nghystadleuaeth dalwrn ar-lein yr Urdd. Diolch i Lenyddiaeth Cymru, i Brifysgol Aberystwyth ac i Gymdeithas Barddas am eu nawdd.