Gwybodaeth i fyfyrwyr

Mae'r Brifysgol yn fwy na sefydliad academaidd, wrth gwrs. Mae'n gymuned glos o staff a myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd a chenhedloedd; Er mwyn diwallu anghenion personol ein myfyrwyr, mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau ardderchog, llety a chanolfannau ar gyfer bywyd cymdeithasol, diwylliant, a gweithgareddau hamdden. Mae hefyd yn cynnwys systemau cefnogi mewn meysydd fel iechyd, lles, cynghori a chefnogi gyrfaoedd ar gyfer ymadawyr ysgol, myfyrwyr hŷn, myfyrwyr cartref a rhyngwladol, a'r rhai sydd ag anghenion arbennig. Cliciwch ar y ddolen briodol isod am fwy o wybodaeth:

Manylion cyswllt

 

Sut i roi adborth

Tiwtorau Personol

Fel rhan o ddarpariaeth fugeiliol Adran y Gymraeg dewisir aelod o staff yr Adran yn Diwtor ar gyfer pob myfyriwr. Fel rheol bydd yr aelod hwnnw/honno o’r staff yn gweithredu fel eich Tiwtor drwy gydol eich cyfnod fel myfyriwr israddedig, oni bai eich bod yn gwneud cais i Bennaeth yr Adran am ei newid. Bydd eich Tiwtor yn gofyn ichwi ddod i’w weld o leiaf unwaith yn ystod pob semester, fel rheol yn ystod yr wythnosau cyntaf. Yn ogystal bydd eich Tiwtor yn dynodi awr (neu fwy) yn ystod yr wythnos pan fydd ar gael i fyfyrwyr ddod i’w weld heb drefniant blaenorol.