Gwibdaith Lenyddol Dafydd ap Gwilym

30 Tachwedd 2008

Yn ddiweddar, bu Dr Huw Meirion Edwards a Dr Bleddyn Owen Huws yn arwain un o wibdeithiau llenyddol yr Academi – ‘Dafydd ap Gwilym yng Ngheredigion’. Dechreuwyd gydag ymweliad â Brogynin, man geni tybiedig y bardd canoloesol, yna ymweliad ag Eglwys Llanbadarn - lleoliad ei gerdd enwog, ‘Merched Llanbadarn’ – ac yna ymlaen i brofi hud Ystrad Fflur. Mae Dr Huw Meirion Edwards a Dr Bleddyn Owen Huws, ill dau yn Uwch-ddarlithwyr yn yr Adran, yn arbenigwyr byd-enwog ar Ddafydd ap Gwilym, un o feirdd amlycaf Ewrop yn yr Oesoedd Canol.