Cryfhau'r Cysylltiad a Harvard

10 Hydref 2008
Dywed Dr Bleddyn Huws: 'Cawsom gyfle i gryfhau'r cysylltiad cyfeillgar sydd rhyngom a'n cydweithwyr yn Adran Geltaidd Harvard, a braf oedd gweld ein myfyrwyr ni yn cael y cyfle i rannu'r un llwyfan a myfyrwyr Prifysgol Harvard a chael cyfle hefyd i gymharu profiadau. Fe gadarnhawyd yn sgil ein hymweliad gymaint o barch sydd i Adran Gymraeg Aberystwyth yn un o brifysgolion mawr y byd.'
Dyma deitlau'r darlithoedd:
Gruffydd Aled Williams, 'Towards a Welsh Renaissance Ars Poetica'.
Bleddyn Owen Huws, 'Dafydd ap Gwilym's 'Trouble at an Inn' and the Medieval Sermon'.
Adrian Morgan, 'The Beginnings of Welsh Witchcraft: Robert Holland and the Dialogue of Tudur and Gronw'.
Daniel Ranbom, 'The Giants who Dwarf 'Culhwch ac Olwen''.
Traddododd yr Athro Gruffydd Aled Williams ddarlith yn Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard fis Mawrth diwethaf. Teitl y ddarlith oedd ‘Grief Transmuted: Lewys Glyn Cothi’s Lament for His Son’.