Llawenhau y mae Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, yn ei llwyddiant yn Asesiad Ymchwil 2008. Cyflwynwyd mwy o waith ymchwil gennym ym maes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd na chan yr un brifysgol arall drwy Brydain a Gogledd Iwerddon. Barnwyd bod 65% ohono yn perthyn i'r ddau gategori uchaf, categoriau sy'n dynodi rhagoriaeth ryngwladol. Testun balchder yw bod chwarter o'n gwaith yn cael ei ddisgrifio fel ymchwil 'sy'n arwain y ffordd yn rhyngwladol'. Mae'r canlyniad gwych hwn yn ein gosod ymhlith y pedwar sefydliad gorau ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon, gyda'r Adran Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg yng Nghaer-grawnt, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, sydd hefyd yn Aberystwyth (sefydliad nad yw'n dysgu myfyrwyr), a Phrifysgol Wlster. Yn dilyn ein llwyddiant aruthrol yn Asesiad Ymchwil 2001, mae'r canlyniad eleni'n dangos y gall rhagoriaeth dysgu a rhagoriaeth ymchwil fynd law yn llaw. Mae hyn yn newyddion gwych iawn i ddarpar fyfyrwyr ymchwil ac i israddedigion.
Yr Athro Patrick Sims-Williams
Pennaeth yr Adran