Llys y Brifysgol
Cyfarfod 2025
- 15 Mai 2024
- 18:00-19:30
- Canolfan y Celfyddydau Penglais SY23 3DE
Mae sefydliadau addysg uwch yn wynebu heriau sylweddol ar hyn o bryd, ac nid ydym ni’n eithriad. Fodd bynnag, mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau effeithiau cadarnhaol i'n myfyrwyr, i’r Gymru wledig a'r byd. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i ymgysylltu â'n gweledigaeth a chlywed sut rydym yn addasu ein meddylfryd i barhau i newid bywydau er gwell.
Mae Llys y Brifysgol yn fforwm cyhoeddus blynyddol ar gyfer cyfathrebu a thrafod gweithgareddau'r Brifysgol.
Bydd rhaglen 2025 yn cynnwys areithiau, straeon a thrafodaeth i gyflwyno ein Strategaeth newydd i’r 2030au ac ystyried pam mae Prifysgol Aberystwyth yn anelu at dyfu gwybodaeth, adeiladu cymunedau, a chryfhau Cymru.
Bydd hefyd yn gyfle i fynychwyr rannu eu dirnadaeth a thrafod sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i oresgyn rhwystrau presennol a chadw’n driw i'n cenhadaeth.
Swyddogaeth y Llys
Diffinnir swyddogaeth y Llys fel a ganlyn yng nghymal XIV y Siarter:
Bydd Llys i’r Brifysgol. Rôl y Llys fydd darparu fforwm cyhoeddus ar gyfer cyfathrebu ac ar gyfer trafod gweithgareddau’r Brifysgol. Bydd aelodaeth a swyddogaethau’r Llys fel y’u darperir drwy Ordinhad.
Bydd Cyfarfod Blynyddol y Llys yn cynnwys:
- Croeso gan y Canghellor;
- Adroddiad ar waith y Brifysgol gan Gadeirydd y Cyngor; ac
- Anerchiad gan yr Is-Ganghellor.
- Bydd rhaglen cyfarfod y Llys yn cael ei dosbarthu yn Gymraeg a Saesneg.
Mae Ordinhad 19 - Y Llys yn amlinellu cyfansoddiad y Llys.