Cynadleddau

Ecolegau Symudol Ffilm Ffotocemegol yn y Cyfnod Digidol, 7 – 11 Mehefin 2021

Prifysgol Aberystwyth, Cymru

Trefnwyr y Gynhadledd: Kim Knowles (kik2@aber.ac.uk) / Marcy Saude (mad117@aber.ac.uk) / Christo Wallers (christo.wallers@tutanota.com)

Siaradwyr a gadarnhawyd:
Richard Tuohy, artist a chyd-sylfaenydd Nanolab (Daylesford, Awstralia)
Esther Urlus, artist a chyd-sylfaenydd Filmwerkplaats (Rotterdam, yr Iseldiroedd)
Karel Doing, artist ac academydd (Caergrawnt, y DU)
Emmanuel Lefrant, artist a chyfarwyddwr Light Cone Distribution (Paris, Ffrainc)
Bea Haut, artist a chynhyrchydd Loophole Cinema ac Analogue Recurring (Llundain, y DU)
Vicky Smith, artist, academydd a chyd-sylfaenydd Bristol Experimental and Expanded Film (BEEF) (Bryste, y DU)
James Holcombe, artist a chyflenwr Orwo y DU (Frome, y DU)

Yn nhirwedd gyfryngol uchel-dechnoleg ein hoes, lle mae cylchoedd o ddefnydd a gwaredu ac uwchraddio a diweddaru’n gyffredin, mae arwyddocâd ychwanegol i ddarfodedigrwydd. Cafwyd llawer o newidiadau technolegol yn ystod hanes y sinema, ond does dim un wedi cael effaith mor drawsnewidiol ar y diwydiant â’r trosi o ffilm analog (neu ffotocemegol) i ddigidol. Ers dechrau’r ganrif, mae cyfrwng ffilm wedi symud o safle dominyddol i un ymylol wrth i dechnoleg ddigidol olygu bod technoleg ffotocemegol a mecanyddol yn ddarfodedig ar raddfa fasnachol. Er gwaethaf hyn, mae artistiaid yn dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda ffilm, gan greu cymunedau amgen, ymgymryd â dulliau crefftwrol, ail-bwrpasu cyfarpar a adawyd, ailddyfeisio technegau cyntefig ac archwilio technolegau hybrid.

Er bod ysgolheictod academaidd yn raddol yn cydnabod pwysigrwydd y gweithgareddau hyn i ddatblygiad ffilm fel ffurf gelfyddydol, yn ogystal â’r trafodaethau damcaniaethol cysylltiedig, mae angen ymagwedd ehangach o lawer i ystyried yr amrywiol symudiadau a heriau a geir mewn cynhyrchu, dosbarthu ac arddangos ffilm ffotocemegol. Pa foddau esthetig a ffurfiau ymgysylltu materol a gaiff eu datgloi drwy statws diwylliannol newydd ffilm? Os, fel yr awgrymodd Walter Benjamin, yw technoleg hen-ffasiwn yn cynnwys potensial radical, critigol, sut caiff hyn ei fynegi mewn ystumiau creadigol, cymunedau amgen a safleoedd cyfarfod? Sut gall technoleg sy’n honedig ddarfodedig fynegi safbwyntiau gwleidyddol croes, cofleidio canfyddiadau gwahanol, lleisiau ymylol a realiti cyfoes anghyfforddus? Mewn byd a gaiff ei ddiffinio i’r fath raddau gan ryngweithiadau digidol, sut mae ffilm yn gweithredu ochr yn ochr ac mewn dialog gyda’r tirlun technolegol hwn? Mae cwestiynau pwysig hefyd yn ymwneud â’r ecolegau cyfatebol sy’n gadael i weithiau ffilm ffotocemegol gylchredeg fel gwrthrychau materol a phrofiadau corfforedig. Ar adeg pan gaiff y rhan fwyaf o ffilmiau eu dosbarthu a’u taflunio fel ffeiliau digidol, pa seilweithiau sy’n bodoli ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno printiau ffilm? Pa ddadleuon y gellir eu cyflwyno mewn perthynas â phwysigrwydd taflunio mecanyddol? Beth yw rôl sefydliadau o ran diogelu ffilm ffotocemegol o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol?

Bwriad y gynhadledd yw archwilio cyflwr cyfredol ffilm ffotocemegol a’i chynaladwyedd yn y dyfodol yn y cyfnod digidol. Ei nod yw efelychu trafodaeth ar bob agwedd ar gynhyrchu, dosbarthu ac arddangos, archwilio sut y gellid dod â’r rhain at ei gilydd yn fwy effeithiol drwy gyfuniad o ymchwil academaidd ac artistig, yn ogystal â rhwydweithiau a chymunedau sy’n eu trefnu eu hunain. Er bod ffilm ffotocemegol, yn enwedig Super 8 a 16mm, bellach yn cael ei gysylltu’n bennaf â sinema arbrofol ac artistiaid, mae’r gynhadledd yn croesawu ymyriadau ym mhob maes o ymarfer creadigol ac ymchwil academaidd. Mae’n ceisio archwilio sut y gallai safbwyntiau academaidd, ymyriadau curadurol ac ymatebion creadigol mewn perthynas â darfodedigrwydd technolegol arwain at well ymwybyddiaeth o’r maes ymylol ond hanfodol hwn mewn diwylliant ffilm.

Rydym ni’n croesawu papurau academaidd, dangosiadau a sgyrsiau artistiaid ar amrywiaeth eang o bynciau:

  • Estheteg a gwleidyddiaeth ffilmiau ffotocemegol
  • Safbwyntiau athronyddol newydd
  • Damcaniaethau darfodedigrwydd
  • Ffenomenoleg ffilm a’r ddelwedd haptig
  • Archifo ffilm
  • Dadfeiliad ffilm a darnau ffilm a ganfuwyd
  • Arddangosfa DIY a micro-sinemâu
  • Cymunedau a rhwydweithiau ffilm DIY (yn cynnwys labordai ffilm sy’n cael eu rhedeg gan artistiaid)
  • Diwylliant Ffilm Ffotocemegol Byd-eang
  • Mewnosodwaith ffilm
  • Perfformiad ffilm ehangedig
  • Gweithiau hybrid ffilm-digidol
  • Ymchwil ffilm technolegol
  • Ymchwil i ffotocemeg
  • Ymchwil hybrid fel argraffu 3D ar gyfer darnau peiriant
  • Labordai ffilm a redir gan artistiaid
  • Cyfliniau hanesyddol gyda’r foment dechnolegol gyfredol
  • Curadu/rhaglennu ffilm ffotocemegol
  • Safbwyntiau materol ar ofod yr oriel
  • Ymatebion corfforedig i daflunio ffilm
  • Cynaladwyedd economaidd
  • Cwestiynau ynghylch hygyrchedd adnoddau
  • Cadw i gynnal diwylliant ffilm ac arferion arddangos yn ystod y pandemig

Dyddiad cau i gyflwyno cynigion: 15 Mawrth 2021

Anfonwch gynigion tua 300 gair, gan nodi cyswllt sefydliadol os yw hynny’n berthnasol, ynghyd â bywgraffiad cryno. Dangoswch yn glir beth yw natur eich cyfraniad a dweud a fydd angen unrhyw dechnoleg arbennig. Yn achos cyflwyniadau academaidd a sgyrsiau artistiaid, dylid anelu iddynt bara tua 20 munud. Rydyn ni’n annog pob math o fformatau i’r cyflwyniadau ac fe wnawn ein gorau i hwyluso dulliau ansafonol. Anfonir hysbysiadau erbyn 9 Ebrill.

Ni fydd y gynhadledd yn codi tâl cofrestru. Anfonwch gynigion i kik2@aber.ac.uk