Cynigion Cyd-destunol
Mae gan Brifysgol Aberystwyth bolisi derbyn cynhwysol sy’n cydnabod natur unigol pob cais a ddaw i law.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r agenda ehangu cyfranogiad a'ch helpu i symud ymlaen i addysg uwch.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ystyried pob cais yn unigol, gan gymryd y cais cyfan i ystyriaeth. Felly, wrth ystyried cais, bydd y canlynol yn cael eu hadolygu: unrhyw raddau a enillwyd eisoes; unrhyw raddau a ragwelir; y geirda; y datganiad personol, a ph’un a oes unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai fod yn berthnasol. Yn seiliedig ar yr wybodaeth yn y cais, gall ymgeisydd naill ai dderbyn cynnig sy’n is na brig y band gofynion mynediad neu gellir ystyried yr wybodaeth hon ar adeg cadarnhau pan fydd canlyniadau arholiadau yn cael eu rhyddhau.
Yn ogystal, mae’r Brifysgol yn gwneud cynigion cyd-destunol i ymgeiswyr sy’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf canlynol (ac eithrio graddau Gwyddor Filfeddygol a Nyrsio Filfeddygol):
- Os yw’r ymgeisydd wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni
- Os oes gan yr ymgeisydd unrhyw gyfrifoldebau gofalu
- Os oes gan yr ymgeisydd Statws Ffoadur/Ceisiwr Lloches
- Os yw’r ymgeisydd yn byw mewn ardal ddifreintiedig, a adlewyrchir yng nghod post ei gartref parhaol, ac os yw’n byw yng Nghategori 1 neu 2 y system sgorio Polar4
- Os yw’r ymgeisydd wedi bod mewn gofal
- Os mai’r ymgeisydd yw’r genhedlaeth gyntaf o’i deulu agosaf i fynd ymlaen i Addysg Uwch
Mae’r Brifysgol yn cael gwybod a yw’r ymgeisydd yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf uchod drwy ei gais UCAS gan fod y data hwn yn cael ei gasglu gan UCAS ac yn cael ei rannu gyda phrifysgolion. Felly, dim ond i ymgeiswyr sy’n gwneud cais trwy UCAS y gall y Brifysgol roi cynnig cyd-destunol. Mae cynigion cyd-destunol fel arfer dwy radd neu 16 pwynt o frig y band gofynion mynediad.
Aber Ar Agor
Bydd pob myfyriwr sy'n cwblhau ein rhaglen breswyl Aber Ar Agor yn llwyddiannus yn cael cynnig cyd-destunol ar lefel is y raddfa a gyhoeddwyd ar gyfer cyrsiau israddedig cymwys.
Amgylchiadau arbennig
Dylid cyflwyno gwybodaeth am amgylchiadau arbennig a allai fod wedi effeithio'n ormodol ar astudiaeth flaenorol neu gyfredol unrhyw ymgeisydd i'r Swyddfa Derbyn Israddedigion
(derbyn-israddedig@aber.ac.uk) ar adeg y cais, neu cyn gynted â phosibl os bydd yr amgylchiadau'n codi ar ôl gwneud cais. Bydd amgylchiadau arbennig y rhoddir gwybod i ni amdanynt yn cael eu hystyried yn ôl disgresiwn y tiwtor derbyn perthnasol lle nad yw'r rhain eisoes wedi'u hystyried gan y bwrdd arholi perthnasol.