Sut mae deall gofynion mynediad?
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym ni’n amlinellu ein gofynion mynediad ar bob cwrs ar-lein ac yn ein prosbectws.
Y rheswm pam fod gennym ofynion mynediad ar ein cwrs yw er mwyn sicrhau bod gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth iawn i gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Mae ein gofynion mynediad yn amrywio’n eang gan ddibynnu ar y pwnc a/neu’r cwrs penodol. Fel prifysgol, mae gennym bolisi cynhwysol sy’n cydnabod amrywiaeth eang o gymwysterau a graddau arholiad Safon Uwch a/neu gymwysterau ar lefel gyfatebol.
Os ydych chi’n astudio am gyfuniad o gymwysterau sydd wedi’u cynnwys yn nhariff UCAS, byddwn ni’n gwneud cynnig o bwyntiau tariff UCAS i chi. Mae’r rhestr isod yn nodi’r cymwysterau rydym ni’n eu derbyn:
- Safon Uwch
- Cymwysterau lefel Uwchgyfrannol
- Bagloriaeth Cymru
- Y Fagloriaeth Ryngwladol
- Y Fagloriaeth Ewropeaidd
- Cymwysterau Galwedigaethol (Cymwysterau Cenedlaethol BTEC, Diplomâu Cenedlaethol Uwch neu Dystysgrifau BTEC. Caiff cymwysterau proffesiynol cydnabyddedig; eraill hefyd eu hystyried o ddifrif e.e. Sefydliad Startredig y Bancwyr, Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol)
- HND/ Gradd Sylfaen
- Cymhwyster Mynediad.
Os hoffech ragor o fanylion ar y gofynion mynediad, cysylltwch â’n Tîm Derbyn Israddedig.