Undeb y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth
Rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyriwr a bod yn barod am unrhyw beth.
Wedi’i arwain gan fyfyrwyr ac â chymorth gan dîm o staff, mae Undeb y Myfyrwyr Aberystwyth yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn cael profiad myfyriwr anhygoel, yn hapus, iach ac a’r grym i newid pethau, gyda ffrindiau oes a dyfodol disglair.
Rydym yn ymroddedig i:
- baratoi myfyrwyr ar gyfer eu hantur nesaf
- rhoi’r gair olaf i fyfyrwyr bob amser
- helpu myfyrwyr i fod mor hapus ac iach â phosibl
- tyfu ynghyd â’r myfyrwyr fel teulu Aber.
Caiff yr addewidion hyn eu cyflawni trwy roi i fyfyrwyr amrywiaeth o fanteision a chyfleoedd, gan gynnwys:
- cyfle i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau ac adeiladu cymunedau
- 100 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau – Cymdeithas Myfyrwyr Ôl-raddedig a chymdeithasau academaidd yn eu plith – a’r cyfle i ddechrau eich grŵp eich hun
- cefnogaeth, hyfforddiant a gwaith – gyda thros 300 o Gynrychiolwyr Academaidd yn cael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr ar lefel cwrs
- cyngor cyfrinachol, diduedd a chyfeillgar yn rhad ac am ddim
- llais cynrychioladol i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystywyth
- cyfleoedd i ymgyrchu ar faterion sydd o bwys i chi
- mannau astudio, a lleoedd i gyfarfod a chymdeithasu.
Mae tîm yr Undeb hefyd yn cynnig cymorth a chynrychiolaeth annibynnol, boed hynny’n ymwneud â materion academaidd, lles neu arian, i fyfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol yn y Brifysgol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch yn uniongyrchol i wefan Undeb y Myfyrwyr, neu defnyddiwch y dolenni isod i ymweld â rhannau penodol o’r wefan honno.